April: Mark Bridger wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
April Jones; Mark BridgerFfynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Bridger wedi ei gyhuddo o lofruddio a chipio'r ferch fach bump oed April Jones

Mae Mark Bridger, y gŵr 46 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofrudido April Jones, wedi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon.

Doedd Mr Bridger ddim yn bresennol yn y llys, yn hytrach roedd yn ymddangos drwy gyswllt fideo o garchar Manceinion.

Mae o wedi ei gyhuddo o lofruddio'r ferch bump oed o Fachynlleth, o gipio plentyn ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared ar gorff neu o guddio corff.

Doedd 'na ddim cais am fechniaeth ac fe gafodd Mr Bridger ei gadw yn y ddalfa tan Ionawr 11.

Dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos yn llys y goron wedi ei ymddangosiad o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Llun.

Diflannodd April Jones wrth chwarae tu allan i'w chartref ar stad Bryn-y-Gog nos Lun Hydref 1.

Paratoi'r achos

Fe wnaeth Mr Bridger siarad i gadarnhau ei enw mewn gwrandawiad a barodd 19 munud.

Roedd yn gwisgo siwmper ddu a sbectol.

Cafodd ei arestio ddiwrnod ar ôl i April ddiflannu.

Clywodd y llys bod yr erlyniad wedi cael "amlinelliad o amddiffyniad posib" y diffynnydd.

Gofynnodd Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad i'r achos gael ei ohirio am wyth wythnos er mwyn paratoi'r gwaith papur.

"Fel y gallwch ddychmygu o natur yr achos yma mae'r ymholiadau yn parhau.

"Mae ymchwiliad fforensig ac eraill yn parhau."

Fe wnaeth y barnwr, Mr Ustus Griffith Williams gytuno y gall "materion ddatblygu".

Fe wnaeth John Hedgecoe ar ran yr amddiffyniad hefyd ddweud y bydd 'na lot o fanylion yn yr achos.

"Fe fydd angen amser arnon ni i fynd drwy'r holl fanylion ac i drafod gyda Mr Bridger," meddai wrth y barnwr.

Dywedodd y barnwr bod 'na lot o ansicrwydd sy'n golygu na allai roi barn ar amser cynnal yr achos.

"Ond fe ddylai gael ei gynnal cyn-gynted â phosib yn y flwyddyn newydd."

Dywedodd ei fod am i hyn ddigwydd cyn gynted â phosib, yn bennaf oherwydd mai plant - rhai mor ifanc â saith oed - oedd rhai o'r tystion.

Ychwanegodd y byddai lleoliad yr achos yn cael ei wneud wedi trafodaeth gyda theulu' April Jones.

Dal i chwilio

Doedd aelodau o'i theulu April ddim yn bresennol yn y llys.

Roedd 'na ddau o blismyn Heddlu Dyfed Powys yn bresennol yn y llys gyda thua 20 o aelodau'r wasg.

Tri aelod oedd yn yr oriel gyhoeddus.

Yn y cyfamser mae 'na 18 o dimau'r heddlu yn parhau i chwilio'r ardal am April.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y byddan nhw'n cadw'r lefel bresennol o bobl am o leiaf bythefnos cyn adolygu'r sefyllfa.

Mae'r chwilio am April yn canolbwyntio ar Afon Dyfri gyda thua 100 o swyddogion yr heddlu a thua 40 o wylwyr y glannau.

Dydd Mercher daeth cadarnhau eu bod yn ymestyn y chwilio i fod ychydig filltiroedd o amgylch y dref.

Dydi'r chwilio ddim yn digwydd yn ystod y nos bellach, dim ond yng ngolau dydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio llinell ffôn arbennig yr heddlu, sef 0300 2000 333.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol