David Sissling, Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd o flaen pwyllgor cyllid y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae cyllid y Gwasanaeth Iechyd yn mynd i fod o dan y chwyddwydr wrth i Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ymddangos o flaen Aelodau'r Cynulliad.
Bydd David Sissling yn wynebu cwestiynau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus lai nag wythnos ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddarogan fod y gwasanaeth iechyd yn debygol o orwario £70 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae Mr Sissling wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd byrddau iechyd lleol yn cyrraedd eu targedau erbyn mis Ebrill.
Yn ôl Mr Sissling mae cynllun manwl mewn lle i helpu'r byrddau iechyd i wneud hyn.
Arolwg cyllid
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod byrddau iechyd yn methu â chyrraedd targedi arbed arian ac mae aelodau'r cynulliad wedi dweud nad oeddent yn argyhoeddedig bod y byrddau iechyd yn llwyddo i fantoli eu cyfrifon.
Yn ôl Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, fe fydd yn rhaid i fyrddau iechyd y Deyrnas Unedig arbed £370 miliwn.
Bydd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, hefyd yn cynnal arolwg cyllid yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae hi'n debygol o argymell y dylai byrddau iechyd derbyn cyllidau dros dair blynedd yn hytrach na blwyddyn i alluogi gwasanaethau gael eu cynllunio'n well.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012