Jade Jones yn ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Y bencampwraig taekwondo, Jade Jones, sydd wedi ei henwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2012 BBC Cymru.
Fe wnaeth y ferch 19 oed o'r Fflint ennill y bleidlais gyhoeddus wrth i seren rygbi Cymru Dan Lydiate fod yn ail a'r seiclwr Geraint Thomas ddod yn drydydd.
Enillodd Jones y Fedal Aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn ystod yr haf gan guro Yuzhuo Hou 6-4 i ennill y bencampwriaeth i ferched yn y pwysau 57 cilogram.
Dyma oedd medal aur gyntaf Prydain yn y gamp.
Cafodd Jones ei chyflwyno i'r gamp yn wyth oed gan ei thaid, Martin Foulkes.
Cyhoeddwyd mai Jones ddaeth i'r brig mewn seremoni yn Stadiwm y Mileniwm nos Lun.
Roedd yn gyfle i ddathlu blwyddyn o lwyddiant ym myd y campau yng Nghymru.
Wrth dderbyn y wobr dywedodd ei bod yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd.
"Mae'r ffaith mai'r cyhoedd sy'n pleidleisio yn gwneud y wobr yn arbennig iawn," meddai.
"Doedd bobl ddim yn gwybod be oedd taekwondo cyn y Gemau ond rwan dwi'n gobeithio bod pobl yn fwy ymwybodol rwan.
"Dwi'n llysgennad i'r gamp ac mae'n anrhydedd bod wedi cael fy enwebu gyda naw arbennig arall.
"Dwi mor hapus ac yn falch iawn ond yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu pleidleisiau.
"Alla i ddim credu fy mod i wedi ennill, mae'n dipyn o anrhydedd."
Neidiwr
Dan Lydiate oedd chwaraewr y bencampwriaeth eleni ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am ei berfformiadau wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn.
Ac fe ddaeth Thomas yn un o bedwar Cymro yn unig i ennill mwy nag un fedal aur pan wnaeth tîm seiclo Prydain amddiffyn eu teitl ar y trac yn y Gemau Olympaidd a thorri record wrth wneud hynny.
Roedd hi'n benllanw blwyddyn lwyddiannus iddo fo a'r tîm, Edward Clancy, Steven Burke a Peter Jennaugh ar ôl iddyn nhw ennill pencampwriaeth y Byd yn Melbourne Awstralia.
Ymhlith gwobrau eraill a gyhoeddwyd nos Lun yn y seremoni oedd mai Tîm Rygbi Cymru ddaeth i'r brig fel tîm y Flwyddyn ar ôl ennill eu trydedd Camp Lawn mewn wyth mlynedd.
Lynn Davies dderbyniodd Gwobr Cyfraniad Oes ac fe aeth Gwobr Carwyn James i'r ieuenctid i'r nofiwr Ieuan Lloyd a'r seiclwr Elinor Barker.
Enillodd Davies Fedal Aur yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 1964.
Llwyddodd i guro record Ralph Boston gyda naid hir o 8.07 metr.
Yn 1968 fe wnaeth ei naid orau, 8.23 metr yn Berne a ganddo fo yr oedd y record Gymreig am 34 mlynedd.
Fe wnaeth Lloyd gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain a methu o drwch blewyn i gyrraedd y rownd gynderfynol nofio rhydd 200m ond roedd yn un o'r tîm cyfnewid 4x200m a orffennodd yn chweched yn y rownd derfynol.
Enillodd Barker ras yn erbyn y cloc ym mhencampwriaethau'r byd i ieuenctid yn Seland Newydd yn ogystal â gwobrau Ewropeaidd ym Mhortiwgal yn ystod y flwyddyn.
Gwobr arall a gyflwynwyd yn ystod y noson oedd i Arthur Wood.
Fo gafodd ei ddewis fel Arwr Tawel 2012 am ei waith gwirfoddol gyda Chlwb Saethu Abertawe am dros 20 mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2012