Newid a mwy o newid ym myd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Lesley Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Lesley Griffiths i ennill pleidlais o ddiffyg hyder yn ystod y flwyddyn

Beth ddigwyddodd ym maes iechyd yn 2012? Os holwch chi'r cwestiwn hwnnw i unrhyw un sydd ynghlwm â'r gwasanaeth yna mi glywch chi'r un gair dro ar ôl tro. Newid.

Roedd newid y gwasanaeth iechyd yn ganolog i ffrae wleidyddol fwya' ffyrnig y flwyddyn.

Fe wynebodd y Gweinidog Iechyd bleidlais o hyder ym mis Mehefin ar ôl i'r gwrthbleidiau gyhuddo'r llywodraeth o gael dylanwad amhriodol ar gynnwys adroddiad annibynnol ar adrefnu iechyd.

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi'n gwbl briodol fod ei swyddogion wedi e-bostio awdur yr adroddiad - yr economegydd iechyd Athro Marcus Longley.

Ond nid y gwleidyddion yn unig oedd yn uchel eu cloch.

Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ysbytai all wynebu cau yw'r un ym Mlaenau Ffestiniog

Roedd 'na wrthdystio eleni yng ngogledd a gorllewin Cymru - gyda rhai trigolion yn gwrthwynebu cynlluniau Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Hywel Dda i newid strwythur y gwasanaeth iechyd yn y gogledd a'r gorllewin.

Os caiff y cynlluniau eu gwireddu fe fydd rhai gwasanaethau arbenigol yn cael eu canoli mewn llai o ysbytai mawr a bydd rhai ysbytai cymunedol yn cau.

Ym mis Ionawr daw'r penderfyniadau terfynol - ac yn fuan yn y flwyddyn newydd fydd byrddau iechyd y de yn dechrau ymgynghori ynglŷn â chynlluniau tebyg.

Arbedion

Ond nid newid siâp eu gwasanaethau oedd yr unig her i'r byrddau iechyd eleni.

Disgrifiad,

Owain Clarke fu'n trafod y byd iechyd gyda Carol Davies, John Jenkins a Ceri Phillips

Fe fuon nhw hefyd yn ceisio dod o hyd i arbedion sylweddol - £220 miliwn i fod yn fanwl.

Ym mis Rhagfyr - fe gyhoeddodd £82 miliwn o gymorth ariannol i fyrddau iechyd ar ôl mynnu'n gynharach na fyddai hi'n cynnig achubiaeth os oedden nhw'n gorwario.

Felly oedd y Gweinidog Iechyd wedi newid ei meddwl?

Pwrpas yr arian, yn ôl Lesley Griffiths oedd rhoi cymorth i'r byrddau ymateb i'r cynnydd annisgwyl yn y galw wasanaethau brys a gofal i'r henoed - nid "cymorth" felly mohono.

Roedd y gwrthbleidiau yn anghytuno.

Organau

Mae'n debygol hefyd y bydd y gwasanaeth ambiwlans yn gorfod newid cyn bo hir.

Cerdyn rhoddwr
Disgrifiad o’r llun,

Gall newid i'r drefn ddigwydd yn ystod haf 2013

Fe gyhoeddodd y gweinidog iechyd adolygiad o'r gwasanaeth ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod yr ymddiriedolaeth ambiwlans wedi bod yn gweithredu am ran fwyaf o'r flwyddyn heb gyllideb bendant.

Newid sylweddol arall sydd ar y gorwel - yw cynllun Llywodraeth Cymru i newid y gyfraith ar roi organau.

Os yw'r mesur yn cael ei gymeradwyo'r haf nesaf, Cymru fydd yr unig wlad ym Mhrydain i weithredu trefn o gymryd yn ganiataol fod pobl yn barod i roi eu horganau, oni bai eu bod nhw'n nodi gwrthwynebiad.

Yn sicr mae 2012 wedi bod yn flwyddyn lle mai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi bod yn trafod ac yn paratoi ar gyfer rhai o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn ei hanes.

Yr her yn y flwyddyn newydd - fydd eu gwireddu.