Cystadleuaeth ganu

  • Cyhoeddwyd
Y Fonesig Kiri Te Kanawa - un o feirniaid 2011 - yn cyflwyno prif wobr Canwr y Byd i Valentina Nafortina yn 2011
Disgrifiad o’r llun,

Y Fonesig Kiri Te Kanawa - un o feirniaid 2011 - yn cyflwyno prif wobr Canwr y Byd i Valentina Nafortina yn 2011

Dechreuodd cystadleuaeth y BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 1983, gan ddod â pherfformiadau gan gantorion o ar draws y byd i lwyfan diweddaraf Cymru ar y pryd, Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Cafodd y gystadleuaeth ei chreu er mwyn dangos talentau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ochr yn ochr â chantorion ifanc gorau'r byd, ac mae'r elfennau crai yna'n parhau wrth galon y digwyddiad.

Cafodd rhestr fer y gystadleuaeth eleni ei chyhoeddi ddydd Mercher ac efallai na fydd yr enwau yn rhai cyfarwydd, ond mae gan y gystadleuaeth hanes o fod yn ddechrau i sawl gyrfa lwyddiannus.

Enw da

Aeth enillydd y gystadleuaeth gyntaf, Karita Mattila o'r Ffindir, ymlaen i berfformio yn rhai o dai opera mwya'r byd, ond nid dim ond enillwyr y brif wobr sydd wedi mwynhau llwyddiant.

Mae gwobr flynyddol y Lieder yn rhedeg ochr yn ochr â'r brif wobr, a'r enillydd yn 1989 oedd Bryn Terfel ychydig cyn iddo ddechrau ar ei yrfa operatig gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae cyfarwyddwr artistig y cwmni, David Pountney, yn ymgynghorydd i'r gystadleuaeth, ac yn falch o enw da'r digwyddiad.

Dywedodd: "Mae Canwr y Byd Caerdydd, fel digwyddiad rhyngwladol, yn dangos y gallu i gynhyrchu cantorion sy'n cael eu cydnabod yn fyd eang yma yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ekaterina Shcherbachenko, enillydd Canwr y Byd Caerdydd yn 2009

"Petai bob un o'r cantorion o Gymru yr ydym yn eu hadnabod yn dod o Birmingham yn lle, fe fyddai rhywun yn meddwl bod rhywbeth o'i le gyda'r geneteg yn Birmingham - fe fyddai'n ffenomenon.

"Ac eto mae gan Birmingham yr un boblogaeth â Chymru, felly mae Cymru yn gwneud cyfraniad llawer mwy na'r disgwyl ym myd cerddoriaeth.

"Mae Canwr y Byd Caerdydd yn wych am ddenu sylw i'r cyrhaeddiad yna, a lledaenu'r gair am gerdd Cymru ar draws y byd - mae'n un o'r ddwy neu dair prif gystadleuaeth yn rhyngwladol."

Proses anodd

Mae'r sêr a welodd eu gyrfaoedd yn blodeuo wedi'r gystadleuaeth yn canmol Canwr y Byd Caerdydd, ac mae'r sylw a gaiff y gystadleuaeth ar deledu a radio yn sicrhau platfform i'r cantorion ymhell tu hwnt i Neuadd Dewi Sant.

Mae'r broses o gyrraedd y rhestr fer yn gallu bod yn anodd dros ben. Mae angen cyflwyno perfformiad fideo i ddechrau, cyn i'r beirniaid ymweld â phob un ar y rhestr fer yn unigol wedi hynny.

Mae'r beirniaid yn teithio ledled y byd i glywed perfformiadau'r ymgeiswyr - i'r mwyafrif fe all un nodyn gwael ddod â'u gobeithion am yrfa lewyrchus i ben, ond i'r 20 sy'n llwyddo gall fod yn ddechrau.

Bydd y gystadleuaeth yn 2013 yn digwydd rhwng Mehefin 16 i 23.

Hefyd gan y BBC