Cyhoeddi cystadleuwyr Canwr y Byd 2013

  • Cyhoeddwyd
Moldova's Valentina Nafornita was a pop singer before she discovered operaFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Valentina Nafornita o Moldova oedd enillydd 2011

Mae'r BBC wedi cyhoeddi'r rhestr o 20 o gantorion fydd yn cystadlu am wobr Canwr y Byd Caerdydd yn 2013.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 16-23 yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Mae'r gystadleuaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni.

Bu'r beirniaid yn teithio i naw lleoliad ar draws y byd i gynnal clyweliadau gyda'r ymgeiswyr - Berlin, Buenos Aires, Dresden, Llundain, Milan, Moscow, Efrog Newydd, Paris a Vilnius.

Roedd dros 400 wedi ymgeisio drwy anfon perfformiad ar fideo i'r beirniaid, ac fe luniwyd rhestr fer o 52 ar sail hynny cyn y clyweliadau personol.

Fe ddaw'r 20 cystadleuydd terfynol o 17 o wledydd gan fod rheolau'r gystadleuaeth yn caniatáu dau ymgeisydd o Loegr, Yr Eidal a De Korea.

Fel ymhob blwyddyn ers i'r gystadleuaeth gael ei chreu yn 1983, fe fydd dwy gerddorfa yn cyfeilio i'r cantorion - Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC dan arweiniad Jun Markl a Cherddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Graeme Jenkins.

Yn ogystal, fe fydd dau gyfeilydd swyddogol i'r gystadleuaeth - Simon Lepper, sy'n Athro Cyfeilio Piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol a hyfforddwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Llŷr Williams, perfformiwr enwog sydd wedi perfformio gyda Cherddorfa Symffoni'r BBC, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Halle, Sinffonia Cymru a Cherddorfa Minnesota.

Fe fydd enillydd y brif wobr yn derbyn £15,000 a Thlws Caerdydd, ac fe fydd enillydd y wobr Lieder yn derbyn tlws a £5,000.

Y beirniaid ar gyfer y brif wobr fydd Y Fonesig Kiri Te Kanawa, Elena Obraztsova, Neil Shicoff, Bernd Weikl, Maren Hofmeister, Per Boye Hansen a'r cadeirydd Nicholas Payne.

Hefyd gan y BBC