Cwmni dosbarthu bwyd Castell Howell yn galw peth cynnyrch yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Catrin Heledd

Mae cwmni dosbarthu bwyd Castell Howell yn Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau wrth BBC Cymru nos Fawrth eu bod nhw wedi galw peth o'u cynnyrch yn ôl oherwydd posibilrwydd bod rhywfaint o gig ceffyl ynddo.

Wrth siarad ar raglen y Byd ar Bedwar ar S4C, fe ddywedodd un o gyfarwyddwyr y cwmni, Martin Jones, fod profion DNA ar gynnyrch cwmni Oak Farm, o Iwerddon, yn dangos olion posib o gig ceffyl.

Mae Castell Howell wedi cysylltu â'r pum cwsmer sydd wedi prynu'r cynnyrch.

Mae cwmni Oak Farm wedi dechrau ymchwiliad i'r mater.

Yn y cyfamser mae Castell Howell wedi rhoi'r gorau i werthu'r pasteiod bwthyn dros dro.

Dywedodd Nigel Williams, cyfarwyddwr ariannol Castell Howell, bod y cwmni yn trefnu i gasglu'r pasteiod gan eu cwsmeriaid.

'Trefn newydd'

Dywedodd bod gan Castell Howell tua 40 o gyflenwyr bwydydd wedi eu prosesu sy'n cynnwys cig eidion.

Roedden nhw wedi cysylltu gyda'u holl gyflenwyr pan ddaeth y sgandal cig ceffyl i'r amlwg, ac er mai Oak Farm yw'r unig un i fynegi pryderon posib nid yw Castell Howell wedi clywed gan bob un o'r cyflenwyr hyd yma.

Pwysleisiodd bod Castell Howell yn defnyddio llawer o gig eidion ffres Cymreig bob wythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Oak Farm: "Nawr ein bod wedi derbyn y wybodaeth angenrheidiol, rydym wedi hysbysu ein holl gwsmeriaid sy'n berchen ar gynnyrch o'r lein yma.

"Er fod y cwmni yn cynnal profion ar eu holl gynnyrch nid yw profion DNA wedi bod ar gael yn helaeth o fewn y diwydiant.

"Ond o ystyried materion diweddar mae Oak Farm Foods yn gweithredu trefn newydd sy'n cynnwys profion DNA."

Ddydd Mawrth dywedodd Alun Davies, dirprwy weinidog amaeth Cymru, wrth Aelodau Cynulliad bod ganddo hyder yn y gaadwyn fwyd yng Nghymru ac nad oedd tystiolaeth o risg i iechyd y cyhoedd.

Dywedodd y dylai manwerthwyr weithio'n galetach i dawelu ofnau cwsmeriaid bod eu bwyd yn ddiogel yn sgil y sgandal cig ceffyl.

Ychwanegodd bod profion yn cael eu cynnal ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys cynnyrch i archfarchnadoedd, ysgolion, ysbytai a charchardai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol