Cyngor Sir y Fflint yn tynnu byrgyrs oddi ar fwydlenni ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi eu bod yn tynnu byrgyrs cig eidion oddi ar fwydlenni ysgolion.
Fe wnaeth y cyngor y penderfyniad ar ôl i olion o DNA ceffyl gael ei ddarganfod ar safle cwmni sy'n cyflenwi cig i gwmni sy'n gwneud byrgyrs.
Serch hynny dyw profion ddim wedi dod o hyd i DNA ceffyl yn eu byrgyrs.
Dywed y cyngor fod y byrgyrs wedi cael eu tynnu oddi ar fwydlenni ysgolion y sir fel cam ymlaen llaw ar ôl trafodaethau gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dywedodd Kevin Jones, aelod y cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Rydym yn dal yn hyderus o ran ansawdd cynnyrch ein cyflenwr.
"Mae gwasanaeth bwyd ysgol y cyngor yn ceisio darparu cynhwysion ffres o ansawdd uchel ar ein holl fwydlenni gan gynnig bwyd blasus a llesol i ddisgyblion a chynnig gwerth am arian i rieni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013