Byrddau iechyd: 'Diffyg o fwy na £3m'
- Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw'r diweddaraf i rybuddio eu bod nhw'n debygol o wynebu dyledion mawr erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedon nhw eu bod nhw'n ceisio gwneud arbedion o hyd ond y gallen nhw wynebu dyledion o £3.5 miliwn.
Fore Mawrth rhybuddiodd bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, y gallen nhw fod £3.9 miliwn yn y coch ar ddiwedd y flwyddyn ariannol er eu bod wedi cael £15m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.
Mae 'na ddyfalu bod byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Phowys hefyd wedi gor-wario.
Dim sicrwydd
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - sy'n gyfrifol am y GIG yng ngogledd Cymru - yn dweud nad oes sicrwydd y bydd yn cyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i fantoli'r gyllideb erbyn dechrau'r mis nesaf.
Mewn adroddiad a baratowyd gan gyfarwyddwr cyllid y bwrdd iechyd, a fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod cyhoeddus y bwrdd ddydd Iau, dywedwyd bod y sefyllfa yn "destun pryder difrifol i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru".
Mae dadansoddiad BBC Cymru yn awgrymu bod byrddau iechyd eraill yn wynebu heriau tebyg cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cafodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro hwb ariannol o £25m gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr fel rhan o becyn £82m i fyrddau iechyd i ddelio â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau fel adrannau brys.
Ond mae adroddiad y bwrdd iechyd, a baratowyd cyn iddynt gyfarfod ddydd Iau, yn awgrymu diffyg ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o £4.6m "os na chymerir camau pellach".
Fodd bynnag, mae'n mynnu ei fod yn ceisio lleihau gwariant a chynyddu arbedion sy'n cynnwys "ymdrech olaf" i leihau costau tâl.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a dderbyniodd gyllid ychwanegol o £8m gan Lywodraeth Cymru, hefyd ar fin trafod rhagolygon ariannol, nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto, yn eu cyfarfod hwythau ddydd Iau.
Ddydd Mawrth dywedodd y bwrdd iechyd eu bod nhw'n debygol o wynebu dyledion o £3.5 miliwn.
Mae rheolwyr yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i dorri costau yn erbyn cefndir o alw cynyddol ar wasanaethau sydd wedi arwain at wario mwy ar staff dros dro a staff asiantaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Powys, a dderbyniodd £4m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, hefyd wedi nodi y gallai wynebu gorwariant diwedd blwyddyn.
Ar ddiwedd mis Ionawr roedd yn rhagweld diffyg posibl o £5.1m.
Mae'n dweud bod costau cynyddol sy'n gysylltiedig â thalu am ofal ar gyfer ei gleifion mewn ysbytai Lloegr wedi gwneud ei sefyllfa ariannol yn fwy anodd.
Byddai'r diffygion a ragwelir yn cyfrif am gyfran fach iawn o'r cyfanswm gwariant blynyddol gan bob un o'r byrddau iechyd Cymru.
Byddai gorwariant gan unrhyw fwrdd iechyd yn cael ei hystyried yn "afreolaidd" a byddai'r cyfrifon yn cael eu hanfon yn awtomatig i Swyddfa Archwilio Cymru.
Ond mae rhai byrddau iechyd Cymreig yn rhagweld y byddan nhw'n llwyddo i fantoli eu cyllideb.
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud ei fod yn "hyderus bod sefyllfa ariannol gytbwys yn bosibl" er bod gorwario o £1.4m erbyn diwedd mis Chwefror.
Cafodd y bwrdd hwnnw £10m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.
Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bwrdd Morgannwg yn rhagweld y "dylai fod yn bosibl i sicrhau sefyllfa ariannol gytbwys" er gwaethaf y ffaith bod y bwrdd iechyd wedi gorwario bron i £5m ar ddiwedd mis Ionawr.
Ddydd Mawrth cyhoeddodd y bwrdd y byddai'n rhaid arbed yr hyn sy'n cyfateb i £1 miliwn yr wythnos er mwyn peidio â gwneud colled yn y flwyddyn ariannol nesa', gan olygu arbedion o £46 miliwn.
Mae'r bwrdd hefyd yn cyfaddef eu bod yn wynebu pwysau parhaus sylweddol, gan gynnwys mwy o alw ar ofal brys.
Cafodd £10m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf, wnaeth hefyd dderbyn £10m ym mis Rhagfyr, yn dweud eu bod yn disgwyl gorwario £13,000 yn unig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Fodd bynnag, mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn "hynod o dynn".
Gweinidog Iechyd
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru ei fod yn bosib na fyddai rhai byrddau iechyd yn mantoli eu cyfrifon erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Ond dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru ei fod yn hyderus y gallai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru "dorri'r got yn ôl y brethyn".
Ychwanegodd y byddai'n disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno esboniadau manwl os ydyn nhw'n gorwario.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno newidiadau i sut y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei gyllido fel bod modd cael cyllid dros gyfnod o dair blynedd yn lle'r drefn bresennol, arian yn flynyddol.
Ond mae'r gweinidog am i ddulliau diogelu gael eu creu i sicrhau na fyddai'r drefn newydd yn golygu y byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn mynd i ddyled fawr dros dair blynedd.
"Rwy'n gallu gweld achos llawn perswâd i gyllido'r Gwasanaeth Iechyd dros dair blynedd ond rwy'n meddwl bod peryglon mewn cynllun o'r fath," meddai.
Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd ddeall na fyddai'r cynllun yn caniatáu i'r gwasanaeth "osgoi torri'r gôt yn ôl y brethyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012