'Poblogeiddio'r system les'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur yn awgrymu y dylai taliadau o fewn y system les fod yn gysylltiedig â chyfraniadau treth unigolion.
Mae'r blaid yn credu y byddai hyn yn poblogeiddio'r system.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron yn dweud bod y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno gan ei lywodraeth yn "adfer ymdeimlad o degwch".
Daeth newidiadau i'r drefn fudd-daliadau, gan gynnwys gostwng budd-daliadau tai i bobl â stafell wely sbâr a newid trefn cymhorthdal treth y cyngor, i rym ar Ebrill 1.
'Cyfrannu i'w cymunedau'
Ond mewn erthygl ym mhapur newydd yr Observer, dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar waith a phensiynau Liam Byrne, bod llawer o bobl "yn teimlo eu bod yn talu llawer mwy i mewn nag y maen nhw fyth yn cael allan".
Dywedodd yn ogystal y dylai "pobl sy'n gweithio ac yn cyfrannu i'w cymunedau" gael blaenoriaeth o ran tai cymdeithasol.
Y Mesur Diwygio Lles yw'r newid mwya' yn y drefn fudd-daliadau ers y 1940au.
Dywedodd Llywodraeth San Steffan fod cymdeithas yn diodde' pan oedd rhai'n cael mwy o arian i fod yn ddi-waith.
Ond dywedodd y llywodraeth fod y newidiadau'n "deg ac yn angenrheidiol".
Yn ôl llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae'n annheg fod hawlwyr budd-dal yn derbyn mwy o incwm na theuluoedd sy'n gweithio ..."
Yng Nghymru mae Huw Lewis, y Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi, wedi dweud y bydd effaith y newidiadau a ddaeth i rym ar Ebrill 1 "ar gymunedau drwy Gymru'n niweidiol iawn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013