£3.7m ar gyfer mudiadau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd yn Ninbych
Disgrifiad o’r llun,

Bu llifogydd difrifol yn Sir Ddinbych yn 2012

Mae'r Gronfa Loteri wedi cyhoeddi'r prosiectau cymunedol fydd fydd yn derbyn £3.7m yng Nghymru.

Yn ôl y loteri, bydd yr arian yn "gefnogaeth hanfodol i bobl fwyaf bregus cymdeithas".

Bydd tri mudiad yn cael bron i £500,000 yr un, Mind Aberconwy, grŵp sgowtiaid o'r Trallwng a mudiadau cydraddoldeb gogledd Cymru.

A bydd gwasanaethau yn Sir Ddinbych sy'n helpu pobl yn sgil llifogydd yr ardal yn cael £141,000.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, John Watkin: "Rydym wrth ein boddau bod yr arian ar gael i gefnogi pobl gafodd eu heffeithio gan y llifogydd ym mis Tachwedd y llynedd.

"Bydd y gefnogaeth yn cynnwys trwsio eiddo, cyngor ar les, cyngor ac arweiniad ariannol a gwybodaeth am sut i gael mynediad i roddion a grantiau."