John Hartson yn gadael ei swydd gyda thîm pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
John HartsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Hartson bod ei waith fel sylwebydd yn cymryd mwy a mwy o'i amser

Mae John Hartson wedi cyhoeddi ei fod am adael swydd hyfforddwr cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru ar unwaith.

Roedd cyn ymosodwr Cymru, Arsenal a West Ham wedi bod yn aelod o dîm hyfforddi Chris Coleman yn ystod ymgyrch y tîm cenedlaethol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Dywedodd Hartson mai "rhesymau teuluol" oedd wrth wraidd y penderfyniad.

Dywedodd: "Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o f'amser gyda Chymru. Mae pawb yn gwybod am fy angerdd tuag at fy ngwlad.

"Mae fy ngwaith fel sylwebydd i'r BBC yn cymryd mwy a mwy o f'amser. Gyda phlentyn arall ar y ffordd mae angen i mi dreulio mwy o amser gyda'r teulu.

"Rwyf wedi dysgu llawer yn gweithio gyda Chris (Coleman), Kit (Symonds) ac Osian (Roberts).

"Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw at y dyfodol ac yn wir obeithio y byddan nhw'n cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Euro 2016."

Ychwanegodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford:

"Rydym yn deall y rhesymau y tu ôl i benderfyniad John. Rydym yn ymwybodol o'i angerdd tuag at bêl-droed Cymru ac yn gobeithio y bydd yn parhau i chwarae rhan yn natblygiad y gêm ar bob lefel yng Nghymru."