Cymdeithas: Ymateb yn 'chwerthinllyd'

  • Cyhoeddwyd
Robin Farrar
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Mr Farrar ddim yn hapus gyda'r camau mae'r llywodraeth wedi eu cyhoeddi

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu ymateb y llywodraeth i'r Gynhadledd Fawr gan ei alw'n "chwerthinllyd".

Mewn datganiad mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar yn dweud bod diffyg "ewyllys gwleidyddol" mewn cysylltiad â sicrhau addysg Gymraeg i bawb a rhoi blaenoriaeth i bobl leol mewn materion cynllunio.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd y llywodraeth y byddai gwefan ac ap newydd yn cael eu datblygu ar gyfer ceisio hybu'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae'r llywodraeth wedi ymateb i sylwadau'r Gymdeithas gan ddweud y bydd datganiad pellach yn dilyn yn y gwanwyn.

Gwefan, ap a phecyn

Yn ogystal â lansio gwefan ac ap, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'r llywodraeth yn mynd ati i sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws portffolio pob gweinidog.

Ond roedd hyn eisoes wedi cael ei addo gan y llywodraeth nôl yn 2003, dolen allanol.

Dywedodd Mr Jones hefyd y byddai'n cyhoeddi canllaw pellach i gydfynd â TAN 20, a hefyd y bydd pecyn ar gyfer cyflogwyr a'i gweithiwr yn cael ei baratoi er mwyn gwella'r ymwybyddiaeth o'r iaith yn y gweithle.

Dyw hyn ddim ddigon da yn ôl Robin Farrar.

'Chwerthinllyd'

Dywedodd: "Mae datganiad y prif weinidog yn chwerthinllyd. O'r Gynhadledd Fawr honedig i'w ddatganiad truenus o fach heddiw, mae ymateb y prif weinidog ymhell o'r hyn sydd ei angen i gryfhau'r Gymraeg.

"Mae bron i flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad bellach, a dydy'r llywodraeth heb ymateb i'r argyfwng mewn unrhyw ffordd ystyrlon.

"Mae amser yn brin, rydyn ni'n colli 3,000 o siaradwyr y flwyddyn, ond mae gynnon ni lywodraeth sy'n gwneud dim byd, ac sy'n anwybyddu ei hymgynghoriadau ei hun...

"Ar ben hynny, ac yn gwbl groes i ganlyniadau ei hymgynghoriad ei hun, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwtogi dros filiwn a hanner o bunnoedd o'r gyllideb fach iawn sydd ar gael i hybu'r Gymraeg."

'Angen newid ymddygiad'

Dywedodd lefarydd ar ran y llywodraeth mewn datganiad: "Mae'r prif weinidog wedi ei wneud yn glir yn ei ddatganiad heddiw mai camau cychwynnol yw'r rhain fel ymateb i'r Gynhadledd Fawr ac y bydd datganiad pellach yn y gwanwyn...

"Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y gweithle ac ein cymunedau ond dyw gweithredoedd gan y llywodraeth ddim yn ddigon.

"Mae'n rhaid i unigolion gymryd cyfrifoldeb drwy newid eu hymddygiad a defnyddio'r iaith bob diwrnod i sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol