Carchar: Amser i Wrecsam benderfynu
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yn paratoi i bleidleisio ar y cynlluniau ar gyfer carchar newydd Wrecsam.
Mae llywodraeth y DU yn awyddus i adeiladu'r hyn sydd wedi ei alw yn "garchar anferth" fyddai'n dal 2,000 o garcharorion ac yn costio £250 miliwn i'w adeiladu.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio yw y dylai'r cynlluniau gael eu cymeradwyo.
Ond mae rhai'n gwrthwynebu gan ddadlau y byddai'r carchar yn amharu ar yr ardal, tra bod cadwraethwr yn poeni am yr effaith fyddai'n gael ar yr amgylchedd.
'Cannoedd o swyddi'
Ym mis Medi llynedd fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn mai safle'r hen ffatri Firestone oedd eu dewis cyntaf nhw ar gyfer y carchar.
Mae llywodraeth y DU yn dadlau y byddai'r carchar yn creu 760 o swyddi newydd ac yn cyfrannu £23 miliwn y flwyddyn at yr economi leol.
Mae manylion y cynllun yn cynnwys tri bloc fyddai'n gweithredu fel lloches i'r carcharorion, i gyd yn 18m (59 troedfedd) o uchder, gyda'r adeilad cyfan yn cael ei amgylchynu gan ffens fyddai 160m i ffwrdd o'r tai agosaf ym Mhentref Maelor.
Yn yr adroddiad i bwyllgor cynllunio'r cyngor mae'r swyddogion cynllunio yn dweud y bod "cymeriad yr ardal ehangach o amgylch y carchar eisoes wedi ei ddominyddu gan ddiwydiant".
Maen nhw'n cydnabod y byddai'n "anochel newid yr olygfa o'r tai cyfagos yn sylweddol" ond yn dadlau "y byddai'r ffens allanol yn ddigon pell i beidio â chymryd drosodd neu achosi lleihad sylweddol mewn golau haul".
Mae swyddogion y cyngor yn dweud y byddai tua hanner y bobl fyddai'n cael eu cyflogi i weithio yn y carchar yn dod o'r ardal leol ac y byddai'r hwb i'r economi leol yn gyfystyr a chreu 80 swydd llawn amser arall.
Yn ogystal, maen nhw'n dweud y gallai swyddi eraill gael eu creu yn y dyfodol, a bod y ffaith mai Wrecsam sydd wedi cael ei ddewis am y carchar yn hwb i'r ardal.
Dim digon o ymgynghori?
Un sefydliad sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau yn gryf yw Cyngor Cymuned Abenbury.
Mae'r corff yn cynrychioli ardal pentre' Maelor ac yn dadlau nad oes "digon o ymgynghori wedi bod gyda'r gymuned leol, wrth benderfynu ar leoliad nac ar ôl y cyhoeddiad bod safle'r ffatri Firestone gynt wedi cael ei ddewis".
Yn ogystal mae pobl leol wedi cwestiynu canfyddiadau'r arolygon traffig, beth fydd lefelau'r sŵn yn ystod adeiladu a'r effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r elusen Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru hefyd yn poeni am yr effaith ar yr amgylchedd.
Maen nhw'n dweud bod yr ardal yn "dirwedd allweddol" ar gyfer math arbennig o löyn byw, sef y gwibiwr brith.
Wrth ymateb i'r pryderon hyn mae swyddogion cynllunio yn y cyngor yn dweud: "Bydd y cynigion yma'n darparu buddsoddiad sylweddol mewn safle ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir o amser a fydd yn arwain at greu swyddi newydd yn yr ardal."
Mae'r cynghorwyr yn cael eu hannog gan swyddogion i roi caniatâd cynllunio ond ar yr amod bod llywodraeth y DU yn cytuno i ariannu nifer o brosiectau cymunedol.
Un o'r rhain fyddai gwasanaeth bws ar y Sul, gwerth £15,000 dros dair blynedd a £20,000 arall i wella gwasanaethau bws i orsaf drenau Wrecsam.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw am gyfres o "fesurau i liniaru'r effeithiau ecolegol" ar y tir drws nesa i'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd19 Medi 2013
- Cyhoeddwyd4 Medi 2013