Pobl yn gadael eu cartrefi ar lan y môr yn Aberystwyth a'r Borth
- Cyhoeddwyd
Mae pobol sy'n byw ar lan y môr yn Aberystwyth a'r Borth yng Ngheredigion wedi gorfod gadael eu cartrefi cyn llanw uchel nos Wener.
Roedd llochesi dros dro yn Ysgol Penglais a Chanolfan Gymunedol Y Borth lle oedd tua 100 yn aros.
Mae un arall wedi ei sefydlu yn Aberteifi wedi llifogydd yn Heol y Santes Fair.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y byddai tonnau chwe throedfedd yn uwch na lefel y môr yn bosib' yng nghyffiniau Aberystwyth am 9.20pm.
"Mae'r heddlu ar y prom yn Aberystwyth," meddai Gohebydd BBC Cymru Craig Duggan nos Wener, "yn rhybuddio pobol i gadw draw.
"Er gwaetha' rhybuddion, mae rhai'n dal i gerdded ar y prom.
"Eisoes mae tonnau wedi mynd dros wal y môr am 7.30pm.
'Symud'
"Yn ôl yr heddlu, mae pobol wedi gadael yr holl adeiladau sy' ar y prom. Mae myfyrwyr wedi cael eu symud i neuadd arall ar Gampws Penglais."
Un o'r adeiladau oedd yn gorfod cau oedd Gwesty'r Marine.
Dywedodd y cyngor fod Bloc y Chweched Dosbarth yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol Penglais a bod Canolfan Chwaraeon Penglais ar gael os oedd angen.
"Mae'n ymddangos hyd yn hyn nad yw'r sefyllfa mor wael ag yr oedd hi'r bore 'ma yn Aberystwyth," meddai Craig Duggan.
"Heno mae'r gwynt wedi bod yn fwy o'r ochr fewndirol ond y bore 'ma roedd yn chwythu'n syth o'r môr. Gawn ni weld."
Nos Wener yn Aberystwyth roedd y gwynt ar gyflymder o 57 mya tra oedd yn 62 yn y bore.
Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch wedi bod yn helpu yn y llochesi yn Aberystwyth ac Aberteifi.
Dywedodd y mudiad fod gwirfoddolwyr yn barod i helpu yn Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2014