Tywydd yn gwella ond y Tywi'n gorlifo
- Cyhoeddwyd
Mae Afon Tywi wedi gorlifo yn nhre Caerfyrddin wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru dweud bod lefelau afonydd eraill yn uchel yn dilyn y glaw trwm.
Mae tri rhybudd llifogydd - Afon Tywi yng Nghaerfyrddin ac Abergwili a'r Ddyfrdwy rhwng Llangollen a Threfalun - yn weithredol ynghyd â 18 o ragrybuddion am lifogydd.
Mae CNC hefyd yn annog pobl sy'n byw mewn ardaloedd arfordirol i baratoi am lanw uchel allai ddod â llifogydd i'r ardaloedd yna.
Yn ddiweddarach ddydd Iau, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am wyntoedd cryfion ger yr arfordir gan ddod â thonnau mawrion yn eu sgil.
Er hynny mae'r tywydd garw wedi gostegu rhywfaint ddydd Iau, a dywedodd CNC eu bod am fanteisio ar hynny i wirio amddiffynfeydd llifogydd a chadw draeniau'n glir cyn i fand newydd o dywydd drwg cyrraedd.
Wrth i bobl ddychwelyd i'w gwaith wedi'r gwyliau, mae dydd Iau wedi bod yn gymharol ddi-drafferth.
Er hynny mae llifogydd wedi cau'r A4042 rhwng yr A40 a Ffordd Blaenau'r Cymoedd (A465) ger Y Fenni yn Sir Fynwy.
Gerllaw mae'r A472 wedi ailagor ar ôl bod ar gau am gyfnod oherwydd llifogydd rhwng yr A4042 (Ffordd Brynbuga) a Lon Cefn Mawr.
Dywedodd Gwasanaethau Tân De Cymru a Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu bod wedi cael eu galw i ychydig o ddigwyddiadau'n ymwneud â llifogydd dros nos, ond bod y sefyllfa'n gwella.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2013