Dedfryd oes i John Allen am droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd
John AllenFfynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

Allen yn gadael y Llys i ddechrau ei ddedfryd o garchar am oes.

Mae John Allen, cyn-reolwr cartrefi plant yn y gogledd ddwyrain, wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafwyd Allen yn euog o 33 o gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ddydd Iau, Tachwedd 27.

Fe'i cafwyd yn ddieuog o ddau o'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac roedd y rheithgor wedi methu cytuno ar bedwar cyhuddiad arall.

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 11 mlynedd o dan glo.

Roedd yr oriel gyhoeddus yn llawn wrth i'r barnwr Mr Ustus Openshaw ei ddedfrydu.

Dywedodd iddo ddarllen "yn ofalus" 19 o ddatganiadau gan ddioddefwyr.

Dywedodd wrth Allen ei fod wedi achosi "loes" i'w ddioddefwyr a'i fod yn credu na fyddai'n gallu cael ei ddal wrth iddo droseddu.

Roedd 'na gymeradwyaeth o'r oriel gyhoeddus wrth i bobl weiddi ei fod yn fwystfil.

Rhwydwaith o gartrefi

Roedd Allen, 73 oed o Needham Market yn Suffolk, wedi gwadu 39 cyhuddiad o gam-drin rhywiol yn erbyn 19 o fechgyn ac un ferch rhwng y 1960au a'r 1990au.

Ffynhonnell y llun, North wales police

Clywodd yr achos llys bod y cyn-berchennog gwesty wedi agor ei gartref plant cyntaf, Bryn Alyn yn Llai, ger Wrecsam, yn 1968, er nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau ym maes gofal plant.

Yn y blynyddoedd wedyn fe sefydlodd rwydwaith o gartrefi ar draws y gogledd, ac fe ehangodd y cartref gwreiddiol i fod yn Gymuned Bryn Alyn.

Roedd Cymuned Bryn Alyn ymysg y cwmniau mwyaf yn y DU i ddarparu gofal preswyl, ac roedd plant yn cael eu hanfon yno o tua dwsin o awdurdodau lleol.

Digwyddodd y rhan fwyaf o'r cam-drin mewn tri chartref gofal: Bryn Alyn, Pentre Saeson a Bryn Tirion.

Yn ystod yr achos, ddechreuodd yn gynnar ym mis Hydref, clywodd y rheithgor bod Allen wedi'i gael yn euog, a'i garcharu, yn 1995 am ymosodiadau rhyw ar chwech o fechgyn rhwng 12 a 16 oed.

'Nid gofal, ond uffern'

Yn ystod yr achos eleni roedd Allen yn dal i fynnu mai camweinyddu cyfiawnder oedd hynny a'i fod yn ddieuog o'r troseddau - er hynny dyw Allen erioed wedi apelio yn erbyn yr euogfarnau.

Cafodd ei gyhuddo eto o droseddau pellach ar ôl i'r diweddar Syr Ronald Waterhouse gyhoeddi'r adroddiad o'i ymchwiliad ond fe daflwyd yr achos o'r neilltu gan farnwr am resymau technegol.

Wrth siarad am ei brofiad o fyw yng nghartref plant Bryn Alyn, dywedodd un o'r bobl ddioddefodd wrth law Allen, "nid gofal oedd hynny, uffern oedd o".

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, eglurodd sut y byddai Allen yn rhoi anrhegion iddo, cyn ei gam-drin.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Allen ei gartref plant cyntaf, Bryn Alyn yn Llai, ger Wrecsam, yn 1968.