Kirsty Williams yn cefnogi Farron

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kirsty Williams yn cyfadde' bod yr etholiad wedi bod 'yn ddinistriol' i'w phlaid

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams wedi rhoi ei chefnogaeth i Tim Farron i fod yn arweinydd nesa'r blaid ar draws y DU.

Mae Mr Farron yn gyn lywydd y blaid ac yn un o wyth aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe wnaeth Ms Williams gyhoeddi datganiad ar y cyd gydag arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie.

Fe ddaw'r datganiad wedi noson drychinebus i'r blaid yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau, 7 Mai.

Fe gollodd y Dem.Rhydd. bron 50 o'u seddau gan adael dim ond wyth aelod seneddol.

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Tim Farron wedi cadarnhau y bydd yn sefyll hyd yma

Fe ddywed datganiad y ddau:

"Roedd canlyniadau nos Iau yn ddinistriol i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r boen rhywfaint yn llai o wybod y bydd ein gwelliannau rhyddfrydol mewn llywodraeth yn parhau.

"Ond rhaid i ni nawr haeddu'r hawl i gael gwrandawiad yn y dyfodol... er mwyn symud ymlaen rhaid i ni droi dalen newydd.

"Wrth ystyried hynny rydym yn galw ar Tim Farron i fod yn arweinydd nesaf. Rydym yn credu mai ef yw'r person iawn i ailadeiladu'r blaid, ein hysbrydoli ac arwain ein hymgyrchoedd etholiadol y flwyddyn nesaf.

"Fe fyddwn yn ei gefnogi'n llwyr os fydd yn rhoi ei enw ymlaen."

Nid yw Mr Farron wedi cadarnhau y bydd yn sefyll i fod yn arweinydd, ond fe ddywedodd fore Llun bod rhaid i'w blaid "droi dicter yn weithredu" gan fynnu bod ei blaid yn medru cynnig "gobaith ac undod - gwerthoedd sy'n ein tynnu at ein gilydd".