Canllaw i brif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015
- Cyhoeddwyd
Cynhelir seremonïau i anrhydeddu prif lenor a phrifeirdd yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos y brifwyl.
Yr Archdderwydd sy'n arwain y prif seremonïau ac mae Gorsedd y Beirdd yn bresennol hefyd. Eleni yw blwyddyn olaf yr Archdderwydd Christine wrth y llyw, cyn i Geraint Llifon gymryd yr awenau yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016.
I lawer o Eisteddfodwyr, y prif seremonïau yw pinacl eu hwythnos gyda dyfalu mawr a fydd yna deilyngdod a phwy fydd yr enillydd.
Isod mae canllaw i seremonïau'r wythnos ac yma bydd rhestr o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015 yn ymddangos.
Dydd Llun, Awst 3
16.30 - Seremoni Coroni'r Bardd
Tasg 2015: Casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau: Breuddwyd
Beirniaid: Cyril Jones, Nesta Wyn Jones, Gerwyn Williams
Enillydd 2015: Manon Rhys
Dydd Mawrth, Awst 4
11.00 - Seremoni Cyflwyno Medal Syr T.H. Parry-Williams er clod
Enillydd 2015: Jennifer Maloney, Llandybïe, Rhydaman
17.00 - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Tasg 2015: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Beirniaid: Robat Arwyn, Angharad Price, Dewi Prysor
Enillydd 2015: Mari Lisa
Dydd Mercher, Awst 5
16.30 - Seremoni'r Priflenor Rhyddiaith
Tasg 2015: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Dwy/Dau
Beirniaid: Mari Emlyn, Jerry Hunter, Manon Steffan Ros
Enillydd 2015: Tony Bianchi
Nos Fercher, Awst 5
18.55 - Seremoni Tlws y Cerddor
Tasg 2015: 1 gân corws a 2 gân i unawdwyr ynghyd ag amlinellaid o'r sioe gyfan. Geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.
Beirniaid: Caryl Parry Jones, Robat Arwyn
Enillydd 2015: Osian Huw Williams
Dydd Iau, Awst 6
10.25 - Cyflwyno Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Beirniaid: Heini Gruffudd, Alison Layland, Sian Lloyd
Enillydd 2015: Gari Bevan, Merthyr Tudful
Gari Bevan yw Dysgwr y Flwyddyn
10.30 - Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Er Anrhydedd
I gydnabod ac anrhydeddu cyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth.
Enillydd 2015: Mel Williams, Llanuwchllyn
Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg i Mel Williams
17.00 - Seremoni'r Fedal Ddrama
Tasg 2015: Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Beirniaid: Betsan Llwyd, Ian Rowlands, Iola Ynyr
Enillydd 2015:Wyn Mason
Dydd Gwener, Awst 7
16.30 - Seremoni Cadeirio'r Bardd
Tasg 2015: Awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau: Gwe
Beirniaid: Mererid Hopwood, John Gwilym Jones, Twm Morys
Enillydd 2015:Hywel Griffiths