Adroddiad arbennig: Hedd Wyn
- Cyhoeddwyd

Ganrif union yn ôl i'r wythnos hon cafodd gorchudd du ei daenu dros y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
Hedd Wyn oedd y bardd buddugol gyda'i awdl 'Yr Arwr' ond ychydig wythnosau ynghynt ar 31 Gorffennaf cafodd Ellis Humphrey Evans ei ladd ar ddiwrnod cyntaf brwydr enbyd Passchendaele yn y Rhyfel Mawr.
Mae Cymru Fyw wedi llunio adroddiad arbennig sy'n edrych yn ôl ar hanes Hedd Wyn, o'i fagwraeth ar fferm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd hyd at y seremoni unigryw yn y Brifwyl.
>> CLICIWCH YMA AM ADRODDIAD ARBENNIG GAN CYMRU FYW YN OLRHAIN HANES HEDD WYN <<

Gwyliwch:
Hedd Wyn: Canrif o Gofio, S4C, Nos Fercher, 6 Medi, 21:30