Merched Cymru v Kazakhstan: Y dorf fwyaf erioed?

  • Cyhoeddwyd
Merched CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tîm yn gobeithio denu mwy na'r 3,581 ddaeth i'w gwylio yn erbyn Lloegr yn 2014

Mae tîm pêl-droed merched Cymru yn gobeithio denu eu torf fwyaf erioed i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer eu gêm gartref gyntaf o'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 yn Ffrainc.

Bydd Cymru'n herio Kazakhstan nos Wener yn eu trydedd gêm yng Ngrŵp 1.

Mae tîm Jayne Ludlow wedi cael dechrau da i'w hymgyrch, gan drechu Kazakhstan o 1-0 oddi cartref a chael gêm gyfartal â Rwsia yn St Petersburg.

Maen nhw ar frig y grŵp ar hyn o bryd, bwynt ar y blaen i Loegr a Bosnia-Herzegovina sydd wedi chwarae gêm yn llai.

'Grŵp angerddol'

Mae awgrym y gallai'r merched ddenu eu torf fwyaf erioed nos Wener, gan guro'r 3,581 ddaeth i'w gwylio yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2014.

O'i gymharu, dim ond 820 ddaeth i gefnogi'r tîm yn eu gêm gyntaf yn yr ymgyrch Cwpan y Byd diwethaf, yn erbyn Belarws yn 2013.

Hefyd nos Wener bydd band y Barry Horns, sydd i'w clywed ym aml yn y stadiwm yng ngemau cartref tîm y dynion, yn chwarae yn ystod gêm rynglwadol y merched am y tro cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jayne Ludlow yn edrych ymlaen ar gyfer eu gêm gartref gyntaf o'r ymgyrch

"Dewch i'n cefnogi," meddai Ludlow.

"Mae'r merched wedi bod yn edrych 'mlaen i'r gêm yma, a gobeithio y gallwn ni gael perfformiad da.

"Rydyn ni'n grŵp o chwaraewyr angerddol iawn, fydd yn chwarae â chalon, a phan fyddwn ni allan ar y cae fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i gael y canlyniad i'n gwlad."

'Angen chwe phwynt'

Un sy'n gobeithio dechrau'r gêm yw Helen Ward, a hynny ychydig dros ddeufis yn unig ers iddi roi genedigaeth i'w hail blentyn.

Ffynhonnell y llun, @FAW_Womens
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock sgoriodd unig gôl y gêm yn Kazakhstan ym mis Medi

Bydd y garfan yn teithio i Zenica i herio Bosnia-Herzegovina nos Fawrth, a dywedodd seren Cymru, Jess Fishlock, eu bod yn targedu dwy fuddugoliaeth.

"Pedwar pwynt yw beth fydden ni'n ei ddisgwyl hyd yma, ond rydyn ni'n ymwybodol ein bod angen chwe phwynt o'r ddwy gêm nesaf," meddai.

"Mae'r paratoadau wedi bod yn dda, ac mae'r merched yn ysu i ddechrau a sicrhau'r triphwynt."