Bwlio: ACau Llafur yn galw am ymchwiliad annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall bod rhai Aelodau Cynulliad Llafur eisiau ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Maen nhw o'r farn mai person annibynnol ddylai edrych mewn i'r mater, yn hytrach na grŵp trawsbleidiol.
Ddydd Mercher nesaf bydd ACau'n pleidleisio ar gynnig gan y Ceidwadwyr yn galw ar y pwyllgor trawsbleidiol sy'n ymchwilio i'r Prif Weinidog i sefydlu ymchwiliad.
Ond fe allai Llafur gyflwyno cynnig gwahanol.
'Tensiwn'
Yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, roedd y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones wedi gwneud honiadau o fwlio ac 'awyrgylch wenwynig' o fewn gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru.
Ddydd Mawrth fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd wedi derbyn "unrhyw honiadau penodol o fwlio".
Cyfaddefodd fodd bynnag fod materion wedi codi o ganlyniad i "bobl weithiau'n anhapus gyda'r ffordd roedd pethau'n digwydd".
Ychwanegodd fod "tensiwn" yn bodoli'n aml o fewn gwleidyddiaeth, gan ddweud: "Byddai'n parhau i ddelio â'r tensiynau hynny mewn ffordd mor deg â phosib."
Roedd hefyd wedi dweud ei fod yn derbyn yr angen am fwy o graffu ar y mater.
Dyw Llafur heb benderfynu eto a fyddan nhw'n cyflwyno gwelliant i gynnig y Ceidwadwyr.
Dywedodd un AC Llafur: "Mae angen i bawb fod yn atebol i rywun.
"Ond dim pwyllgor trawsbleidiol yw'r ffordd i wneud hyn. Mae angen ffordd wahanol, person annibynnol."
'Dim ofn craffu'
Roedd aelod arall wedi dweud y dylai ymchwiliad annibynnol ddigwydd ar wahân i'r ymchwiliad sydd eisoes wedi ei gomisiynu i'r ffordd y cafodd Carl Sargeant ei drin.
"Mae angen eglurder ar y ddau beth [y ffordd y deliwyd â diswyddo Carl Sargeant, a'r honiadau o fwlio] mewn ffordd sydd uwchlaw gwleidyddiaeth pleidiau," meddai.
"Mae angen mecanwaith i bobl mewn llywodraeth, gan gynnwys gweinidogion i ddod ymlaen heb ofni unrhyw adwaith, a bod yn gallu siarad ynglŷn ag a oedd yna ddiwylliant o fwlio.
"Byddai pwyllgor trawsbleidiol yn golygu cecru gwleidyddol."
Wrth ymateb i'r syniad o ymchwiliad i'r honiadau o fwlio, dywedodd Carwyn Jones ddydd Mawrth bod sawl ffordd o ddelio gyda'r mater.
"Rydyn ni'n dal yn ôl ar ein safbwynt ar y bleidlais yr wythnos nesaf tan i ni astudio'n fanwl beth fydd hyd a lled y cynnig." meddai.
"Fodd bynnag, dwi'n derbyn fod hwn yn fater ble mae angen rhagor o graffu.
"Dwi ddim ofn y craffu yna, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig canfod beth yw'r ffordd orau i wneud y craffu yna, a dyw hynny ddim yn rhywbeth sy'n fy mhoeni i."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y dylai gwleidyddion o bob plaid "gael y cyfle i graffu ar y Prif Weinidog yn sgil yr honiadau difrifol yma".
Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod nhw'n agored i ddau opsiwn - gadael i'r Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog wneud eu gwaith, a sefydlu "dyfarnwr annibynnol" hir dymor.
Cynnig
Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn mynd gerbron ACau ddydd Mercher yn darllen fel a ganlyn:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol â'r amodau hyn:
1. Y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â bwlio, bygwth a thanseilio Gweinidogion.
2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r canlynol fel rhan o'i ymchwiliad:
a) pryd y gwnaed honiadau i'r Prif Weinidog a/neu ei swyddfa;
b) sut yr ymchwiliwyd i'r honiadau;
c) pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad;
d) rôl y Prif Weinidog a'i swyddfa yn y broses o ymdrin â'r materion hyn; ac
e) dilysrwydd yr atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r honiadau hynny.
3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith.
4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018.