Cymru i herio China yng ngêm agoriadol Cwpan China

  • Cyhoeddwyd
Cymru v PanamaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

China fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru wedi'r gêm gyfartal yn erbyn Panama ddechrau Tachwedd

Bydd Cymru'n herio China yng ngêm agoriadol Cwpan China 2018, yn ôl FIFA.

Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal ddydd Iau 22 Mawrth yn ninas Nanning yn ne'r wlad.

Dyma fydd gêm gyntaf pwy bynnag fydd yn olynu Chris Coleman fel rheolwr Cymru.

Wedi iddyn nhw chwarae China, bydd Cymru yn wynebu'r Weriniaeth Tsiec neu Uruguay yn y rownd derfynol neu'r gêm am y trydydd safle.