Dros filiwn yn ymweld ag adrannau brys yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Wedi blwyddyn a welodd fwy nag erioed o ymweliadau ag adrannau brys ysbytai Cymru, mae dadansoddiad newydd gan y BBC yn awgrymu bod ysbytai Cymru yn cael trafferth ymdopi â'r galw.
Bellach mae dros filiwn o ymweliadau ag adrannau brys ysbytai, a hynny mewn gwlad sydd â phoblogaeth o ychydig dros dair miliwn.
Mae'r adegau lle mae cleifion yn gorfod disgwyl yn hirach na'r nod o bedair awr cyn cael eu cymryd i mewn, eu trosglwyddo i adran arall neu gael eu gyrru adref wedi cynyddu'n sylweddol yn y pedair blynedd diwethaf.
Erbyn hyn mae tua 70,000 yn fwy o bobl nawr yn aros dros yr amser penodedig.
Mae ymchwil o dan gynllun tracio Gwasanaeth Iechyd Gwladol y BBC yn rhoi darlun cliriach o berfformiad adrannau brys ar draws y DU.
Mae'n dangos bod dirywiad y perfformiad yng Nghymru yn waeth nag yng Ngogledd Iwerddon, ond ddim cynddrwg â Lloegr, lle mae'r nifer sy'n disgwyl mwy na phedair awr wedi mwy na dyblu.
Yr Alban yw'r unig wlad sy'n perfformio'n well nag yr oedden nhw bedair blynedd yn ôl.
Wrth i'r GIG yng Nghymru ddechrau teimlo pwysau ychwanegol y gaeaf, mae Llywydd y Coleg Brenhinol Meddyginiaeth Frys yng Nghymru, Dr Robin Roop, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi clywed enghreifftiau o gleifion yn disgwyl am fwy na 80 awr mewn adrannau brys yma.
Targed Llywodraeth Cymru yw na ddylai mwy na 5% o gleifion adrannau brys orfod disgwyl am fwy na phedair awr. Ond rhwng Tachwedd 2016 a Hydref 2017 bu'n rhaid i 17.4% o gleifion wneud hynny.
10.9% oedd y ffigwr bedair blynedd yn ôl.
Yn Yr Alban, dim ond 6.1% arhosodd am fwy na'r targed, ac yn Lloegr 10.9% yw'r ffigwr nawr er ei fod yn llawer is bedair blynedd yn ôl.
Mae'r sefyllfa ar ei waethaf yng Ngogledd Iwerddon lle mae 24.4% wedi aros yn hirach na'r nod.
Dywedodd Dr Robin Roop: "Mae'r nifer sy'n ymweld ag adrannau brys yn codi, ond mae cleifion sy'n mynd i'r adrannau hefyd yn derbyn mwy o wahanol fathau o driniaethau ac yn aros yn hirach.
"Felly mae ein ffigwr perfformiad pedair awr ar i lawr.
"Mae'n bryderus oherwydd rydym ni fel coleg wedi argymell cael mwy o staff a gwelyau yn y system.
"Ry'n ni'n gwneud yn wael iawn o gymharu â'r Alban, ac yn llai da o gymharu â Lloegr.
"Mae cleifion yn poeni, ond fe fyddan nhw'n derbyn gofal arbenigol hyd eithaf gallu'r staff sydd yno - ni fydd cyfaddawdu ar eu gofal."
Y gaeaf yn 'gyfnod heriol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod perfformiad adrannau brys ar draws Cymru wedi gwella ymhob mis ers mis Ebrill o gymharu â'r llynedd.
Er hynny mae amrywiaeth yn y ffigyrau mewn ysbytai unigol ar draws y wlad.
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dros filiwn o bobl yn mynd i adrannau brys yng Nghymru bob blwyddyn. Er hynny, mae ein perfformiad wedi bod yn well ymhob mis ers Ebrill 2017.
"Mae'r gaeaf yn gyfnod heriol i holl wasanaethau iechyd y DU.
"Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r gwasanaeth ambiwlans i gyd wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu cynlluniau integredig er mwyn sicrhau eu bod yn barod am y gaeaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017