Cynllun ysgolion gwerth £284m yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd pump o ysgolion uwchradd yn cael eu hailadeiladu yn y brifddinas fel rhan o gynllun gwerth £284m.
Bydd adeiladau newydd sbon yn cael eu codi ar gyfer ysgolion Cantonian, Fitzalan a Willows.
Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd yn ehangu er mwyn gallu darparu ar gyfer 25% o ddisgyblion ychwanegol.
Fe fydd adeilad Ysgol Uwchradd Cathays yn cael ei hailddatblygu a'i hadnewyddu fel rhan o'r cynlluniau, sy'n cael eu disgrifio gan y cyngor fel "y rhai mwyaf yn hanes Caerdydd."
Dyblu maint tair o ysgolion cynradd, Ysgol Gymraeg Nant Caerau, Y Tyllgoed, ac Ysgol Pen y Pil, Trowbridge i roi lle i 420 disgybl
Caiff Ysgol Gynradd y Santes Fair yn Nhrebiwt ei hailadeiladu, ar gyfer 420 o ddisgyblion
Bydd pedair ysgol newydd ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu arbennig
Hwn yw ail gymal rhaglen 21ain Ysgolion sy'n cael ei gyd ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o gwrdd â'r galw wrth i boblogaeth y ddinas gynyddu.
Dywedodd y cynghorydd Sarah Merry, aelod o'r cabinet â chyfrifoldeb am addysg Cabinet: "Nid yn unig bydd y rownd fuddsoddi nesaf yn ein galluogi i barhau i adnewyddu ein hysgolion, ond bydd hefyd yn cynnig mwy o leoedd ysgol ymhob sector - cynradd, uwchradd, anghenion dysgu ychwanegol, cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Poblogaeth yn tyfu
"Fe fydd hyn yn creu capasiti ychwanegol y bydd ei angen wrth i boblogaeth Caerdydd ddal i dyfu.
"Ers 2012 rydym wedi cynyddu'n sylweddol capasiti yn addysg Gymraeg ledled y ddinas ac rydym wrthi'n adeiladu tair ysgol gynradd Gymraeg newydd arall.
"Bydd y cynigion ym mand B yn adeiladu ar hyn trwy ymestyn dwy ysgol gynradd Gymraeg arall. "
Fe fydd cabinet y cyngor yn trafod y cynigion ddydd Iau nesaf.