Pauline Finlay o Iwerddon oedd y corff ar draeth Môn

  • Cyhoeddwyd
Pauline FinlayFfynhonnell y llun, RTÉ
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Pauline Finlay ar goll yn 1994, saith mis cyn i gorff gael ei ddarganfod ar Ynys Môn

Gweddillion dynes aeth ar goll o Iwerddon oedd y rhai gafodd eu datgladdu ar Ynys Môn yr wythnos diwethaf, yn ôl crwner.

Cafodd y gweddillion eu darganfod yn 1994 ar draeth ger Caergybi, ac yna eu claddu ar yr ynys yr un flwyddyn.

Yng Nghaernarfon ddydd Mawrth, dywedodd Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones bod profion DNA wedi dangos mai gweddillion Pauline Finlay, 49 o Sir Wexford, oedd y rhain.

Aeth Ms Finlay ar goll yn 1994 ar ôl mynd â'i chŵn am dro ar draeth.

Dywedodd Mr Pritchard Jones bod yr heddlu yn Iwerddon o'r farn ei bod wedi disgyn i'r môr a boddi.

Ychwanegodd bod yr achos bellach yn nwylo crwner Iwerddon.