Cwymp o 25% yn nifer y ceisiadau hyfforddiant athrawon

  • Cyhoeddwyd
Athro wrth ei waithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn ceisio annog myfyrwyr disglair i hyfforddi fel athrawon drwy gynnig grantiau

Mae cwymp o dros 25% yn nifer y bobl o Gymru sydd wedi gwneud cais i hyfforddi fel athrawon o'i gymharu â blwyddyn ynghynt.

Mae ystadegau newydd yn dangos bod 740 o bobl wedi gwneud cais erbyn canol Rhagfyr 2017, o'i gymharu â 1,000 o ymgeiswyr yn yr un cyfnod yn 2016 a 1,010 yn 2015.

Daw hyn er i Lywodraeth Cymru gyflwyno cymhellion ariannol newydd yn 2017 i ddenu darpar athrawon ar gyfer pynciau fel Cymraeg, ffiseg, cemeg a mathemateg.

Mae'r nifer o geisiadau i hyfforddi i ddysgu Cymraeg fel pwnc uwchradd 29% yn llai na'r un cyfnod yn 2016.

Dywedodd y llywodraeth bod rhaid bod yn "ofalus" gyda'r ystadegau a'i bod hi'n "gynnar" yn y cyfnod ymgeisio.

Diffyg mewn pynciau penodol

Mae'r ffigyrau, gafodd eu rhyddhau gan y gwasanaeth addysg UCAS,, dolen allanol yn dangos nifer y ceisiadau gafodd eu gyrru gan ddarpar fyfyrwyr hyfforddiant athrawon o Gymru hyd at ganol mis Rhagfyr 2017 ar gyfer y flwyddyn addysgol nesaf.

Dywedodd Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, bod data gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd yn dangos bod sefydliadau hyfforddi athrawon wedi cael trafferth cyrraedd targedau recriwtio athrawon Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf.

"Mae'r diffyg recriwtio yn ymwneud yn bennaf â phynciau uwchradd penodol fel mathemateg, Saesneg, y gwyddorau, ieithoedd modern a Chymraeg," meddai.

"Yn amlwg mae galw am raddedigion sydd wedi astudio pynciau o'r fath ac efallai na wnân nhw hyfforddi fel athrawon."

Ddechrau Ebrill 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen grantiau sy'n cynnwys cynnig £20,000 i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf hyfforddi i ddysgu Cymraeg, ffiseg, cemeg neu fathemateg.

Hyd at ganol Rhagfyr 2017, 50 oedd wedi gwneud cais i hyfforddi i ddysgu Cymraeg - un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â phwnc arall - ar lefel uwchradd.

Mae hynny i lawr o 70 o geisiadau - 29% - ers yr un cyfnod yn 2016. Roedd 90 o geisiadau yn 2015.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cemeg yn un o'r pynciau sy'n cael eu blaenoriaethu, yn ôl y llywodraeth

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad eu bod am i Gymru fod yn lle "apelgar i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon" a bod y grantiau gafodd eu cyhoeddi'r llynedd yn "gymhellion newydd a gwell i ddysgu pynciau sy'n cael eu blaenoriaethu fel ffiseg, cemeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern".

"Mae hi'n dal yn gynnar yn y cyfnod ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19 felly dylid bod yn ofalus gyda'r ffigyrau hyn," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd eu bod wrthi'n newid y ffordd mae hyfforddiant i athrawon yn cael ei gyflwyno, yn "gosod gofynion achredu newydd" ac yn "cryfhau'r ffyrdd mae ysgolion a phrifysgolion yn cydweithio".