Heddlu i holi cynghorwyr am benderfyniad parc solar Môn
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Heddlu Gogledd Cymru holi aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Môn ynglŷn â phenderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer fferm solar fwyaf Cymru.
Dywed yr heddlu eu bod wedi derbyn dau lythyr yn mynegi pryder am ddatblygiad fferm solar Rhyd y Groes, rhwng Cemaes ac Amlwch.
Golygai'r caniatâd cynllunio y bydd tua 200,000 o baneli solar yn cael eu gosod ar safle 200 acer.
Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo'r cynllun fis Rhagfyr - a hynny ar ôl iddynt wrthod y cais gwreiddiol fis ynghynt.
Clywodd y pwyllgor cynllunio y gallai colli achos apêl yn erbyn eu penderfyniad gwreiddiol olygu cost o ddegau o filoedd o bunnoedd i'r awdurdod lleol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno yn y llythyrau a byddwn yn siarad gyda'r sawl sydd wedi ysgrifennu'r llythyrau er mwyn gweld a ddylid holi ymhellach."
Dywed Cyngor Môn eu bod wedi derbyn dau lythyr o gŵyn ynglŷn â'r penderfyniad ond nad oeddynt wedi clywed gan yr heddlu.
Yn ôl llefarydd roeddynt yn fodlon fod y broses gywir wedi ei dilyn.
Dywed Countryside Renewables, y cwmni tu cefn i'r cais cynllunio, nad oedd yr heddlu wedi bod mewn cysylltiad â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017