Giggs ac Osian Roberts wedi trafod ond dim penderfyniad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Osian Roberts y byddai'r trafodaethau'n parhau a "a gweld sut mae pethau'n mynd"

Mae Osian Roberts, is-reolwr tîm pêl-droed Cymru yn ystod cyfnod Chris Coleman, wedi cadarnhau ei fod wedi siarad â'r rheolwr newydd, Ryan Giggs, am ei ddyfodol.

Fe wnaeth Osian Roberts ei sylwadau mewn cyfweliad arbennig ar y Post Cyntaf, ond dywedodd nad oes penderfyniad eto ynglyn â'r dyfodol.

Dywedodd Mr Roberts: "Mae Ryan a fi wedi bod yn trafod a'r peth pwysig ar y dechrau fel hyn yw fod pob dim yn gweithio yn gywir... i Ryan i ddechrau.

"Rhaid sicrhau fod ganddo y cymorth a'r cynorthwy priodol.

"Rhaid sicrhau hefyd bod pethau yn gweithio i minnau. Nawn ni barhau efo'r trafodaethau a gweld sut mae pethau'n mynd."

Ffynhonnell y llun, David Rawcliffe

Ddydd Llun diwethaf cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru benodiad Ryan Giggs fel rheolwr newydd Cymru ar gytundeb pedair blynedd.

Roedd Osian Roberts yn un o'r rhai a gafodd eu cyfweld ar gyfer y swydd. Y ddau arall oedd Craig Bellamy a Mark Bowen.

'Pethau'n edrych yn addawol'

Yn ystod y cyfweliad, ychwanegodd Osian Roberts nad oedd unrhyw fanylion hyd yma am bwy fydd yn aros yn y tîm rheoli na phwy a fyddai'r wynebau newydd.

Dywedodd: "O'm rhan i, yr hyn sy'n bwysig yw bod Ryan yn gallu ymddiried ynof fi a bo fi'n rhoi 100% yn ôl iddo fo.

"Mae e wedi bod yn chwaraewr arbennig yn ystod ei yrfa a jyst gobeithio y gall e newid i fod yn rheolwr arbennig.

"Mae wedi dweud y bydd e'n rhoi pob dim sydd ganddo i'r swydd ac felly mae pethau'n edrych yn addawol."

Nododd Mr Roberts hefyd mai'r peth pwysig yw gwneud y penderfyniad cywir.

"Does dim angen brysio i unrhyw fath o benderfyniad. Y peth pwysig yw gwneud y penderfyniad cywir fel bod pêl-droed yn symud ymlaen.

"Mi aeth y trafodaethau yn dda iawn. Cofiwch nid oes yr un dau hyfforddwr yn y byd yn mynd i gytuno ar bob dim - y peth pwysig yw cytuno ar egwyddorion a'r ffyrdd ymlaen.

"Mi fydd gweithio'n agos a chael perthynas dda yn hanfodol."

Gallwch glywed y cyfweliad llawn ar wefan Radio Cymru.