Ofnau na fydd Liam Williams yn holliach ar gyfer y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae'n edrych yn debyg na fydd Liam Williams ar gael i Gymru ar gyfer gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i'w goes.
Cafodd Williams, 26 oed, ei anafu yn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Georgia ym mis Tachwedd.
Methodd ddychwelyd i'r maes chwarae am chwech wythnos, ond fe ymddangosodd yn y gêm gyfartal rhwng y Saracens a'r Gwelch yng nghystadleuaeth Cwpan Her Ewrop.
Dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland ei bod yn debygol nad oedd Williams wedi gwella'n llwyr o'r anaf ym mis Tachwedd, ac os nad oedd yn ymateb yn gadarnhaol i'r driniaeth, y byddai'n debygol o orfod cael llawdriniaeth.
Williams yw'r diweddara o nifer o brif chwaraewyr Cymru sydd ddim ar gael ar ddechrau'r bencampwriaeth, wedi i Rhys Priestland a Dan Biggar hefyd gael anafiadau.
Cur pen arall i Gatland fydd absenoldeb Sam Warburton, Taulupe Faletau a Jonathan Davies, eto oherwydd anafiadau.
Bydd gêm agoriadol Cymru yn erbyn Yr Alban yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 3 Chwefror, gyda'r garfan yn teithio i Twickenham yr wythnos ganlynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017