'Llechen lân' i adfer perthynas y llywodraeth â'r amgueddfa

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas

Mae'r Gweinidog Diwylliant wedi dweud ei fod eisiau ailddechrau â "llechen lân", wedi i adroddiad annibynnol ddweud bod y berthynas rhwng Llywodaeth Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi chwalu.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wrth BBC Cymru bod "rhaid i'r sefydliadau yma gydweithio gyda'i gilydd".

Mae Amgueddfa Cymru'n dweud bod y berthynas wedi gwella ers i Dr Simon Thurley gynnal adolygiad haf 2017.

Dywedodd Dr Thurley yn yr adroddiad i'r berthynas chwalu yn dilyn cyfnod cythryblus oedd yn cynnwys anhawsterau'r amgueddfa gydag undebau, a chynllun y llywodraeth i uno rhai elfennau masnachol yr amgueddfa gyda chyrff eraill megis Cadw.

'Rhaid cydweithio'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, a ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017: "Dwi ddim eisiau ailagor clwyfau ddigwyddodd yn y gorffennol, cyn i mi gael y cyfrifoldeb yma.

"Ond dwi wedi bod yn gwneud popeth fedra'i yn fy ngallu i sicrhau bod y bobl sydd yn gyfrifol am lywodraethiant y sefydliad yma [Amgueddfa Cymru], a'r swyddogion sydd yn cydweithio gyda fi yn y llywodraeth, a'r gwleidyddion yn y Cynulliad, ein bod ni gyd yn deall bod rhaid i'r sefydliadau yma gydweithio gyda'i gilydd."

Roedd Dr Thurley hefyd yn feirniadol o ddibyniaeth Amgueddfa Cymru ar grant gwerth ychydig dros £20m gan Lywodraeth Cymru, ac fe awgrymodd y dylid penodi cyfarwyddwr masnachol i drio denu nawdd.

Fe dynnodd Dr Thurley sylw at ansawdd isel rhai arddangosfeydd ac adeiladau'r saith safle sydd dan reolaeth Amgueddfa Cymru, ond fe ddywedodd ei fod "wedi canfod sefydliad llwyddiannus a ffyniannus y dylai Cymru ymfalchïo ynddo".

Mae Amgueddfa Cymru wedi croesawu argymhellion yr adroddiad, ac mae'r cyfarwyddwr cyffredinol David Anderson yn dweud y bydd yn penodi cyfarwyddwr masnachol i'r tîm rheoli cyn gynted â phosib.

"Er ein bod o'r farn ein bod yn gwneud yn dda iawn wrth drio denu incwm, rydym yn credu y gallwn fynd yn bellach eto.

"Ein huchelgais yw i fod yr amgueddfa fwyaf llwyddiannus y tu fas i Lundain wrth ddenu incwm, ac rydw i'n credu fod hyn yn darged sy'n bosib ei chyrraedd."

Mae'r Arglwydd Elis-Thomas, sydd â chyfrifoldeb dros nifer o gyrff sy'n derbyn nawdd y llywodraeth, yn dweud ei fod yn parchu'r egwyddor hyd braich.

Dywedodd: "Mi rydw i wedi dweud wrth bawb sydd â chyfrifoldeb am lywodraethiant a rheolaeth yr amgueddfeydd a'r orielau - fel rydw i wedi dweud wrth y Cyngor Celfyddydau a'r holl gyrff eraill - nad ydw i yn y busnes o wneud mân benderfyniadau am reolaeth arian cyhoeddus.

"Eu gwaith nhw ydy hynny."