Tirlithriad Ystalyfera: Dim bwriad symud pobl o'u tai
- Cyhoeddwyd
Does gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddim cynlluniau i symud mwy o bobl o'u tai yn Ystalyfera er bod pryder y gall rhagor o dirlithriadau ddigwydd yn yr ardal.
Yn ôl arweinydd y cyngor, Rob Jones, mae arolygon manwl ar y tir o gwmpas ardal Pant-teg wedi codi rhagor o bryder dros 50 o dai mewn ardal wahanol o'r pentref. ond dyw trigolion ddim wedi cael cyfarwyddyd i symud o'u cartrefi am nad oes tystiolaeth o fygythiad gwirioneddol i fywydau.
Y llynedd bu'n rhaid symud pobl o 10 o dai ar Heol Cyfyng yn ardal Pant-teg ar ôl i dir y tu ôl i'r adeiladau gwympo i lawr y mynydd.
Bellach, mae'r cyngor yn pryderu y gall tir ar y mynydd uwchben y pentre' gwympo tuag at dai ar ochr arall Heol Cyfyng, Heol y Graig, a Heol yr Eglwys.
Dywedodd Mr Jones: "Mae'r arolygon newydd yn dangos ail ardal, sef ardal canol Panteg, ond mae problem wahanol yno, sef bod deunydd y tirlithriad yn eistedd uwchben y tai ar ochr y mynydd.
"Dydyn ni ddim yn gallu rhagweld pryd bydd tirlithriadau'n digwydd, ond bydd tirlithriad yn effeithio ar y tai sydd wedi cael eu categoreiddio yn barth perygl uwch.
"Mae'n rhaid i ni wahaniaethu rhwng Heol Cyfyng ac ardal canol Pant-teg. Ar Heol Cyfyng roedd yna berygl gwirioneddol i'w bywydau ac felly roedd rhaid i'r cyngor gweithredu.
"Beth fydd yn digwydd nawr gyda chanlyniad yr arolwg hwn yw y bydd rhagor o archwilio a monitro yn digwydd - yn benodol y tai sydd wedi cael eu categoreiddio fel rhai risg uchel iawn."
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Lun yn Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn esbonio'r mapiau newydd sydd yn dangos yr arolygon.
Mae disgwyl i deuluoedd gafodd orchmynion i adael eu cartrefi ym mis Awst y llynedd i fynychu'r cyfarfod.
Mae nifer ohonynt wedi cael eu hailgartrefu mewn llety dros dro heb wybod pryd y gallan nhw ail ddychwelyd i'w cartrefi yn y pentref.
Cafodd tribiwnlys ei ohirio ym mis Tachwedd ar ôl i dri o drigolion y tai apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor. Bydd eu hachosion nhw yn cael eu clywed ym mis Mawrth.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod grant o £800,000 ar gael i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i'w helpu i ymateb i'r tirlithriadau diweddar sy'n parhau ym Mhant-teg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd23 Awst 2017