Enwebiad gwobr cerddoriaeth byd yn 'fraint' i gantores
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Gwyneth Glyn wedi cael ei henwebu am un o wobrau blynyddol cylchgrawn blaenllaw sy'n rhoi sylw i gerddoriaeth byd traddodiadol a chyfoes.
Mae'n debyg mai'r gantores o Gricieth yw'r perfformiwr cyntaf o Gymru i gael ei henwebu am wobr Artist Gorau'r Flwyddyn y cylchgrawn Songlines.
Hefyd ar y rhestr hir o 31 mae Robert Plant, prif leisydd y grŵp roc Led Zeppelin, a'r cerddor o Dde Affrica Hugh Masekele, fu farw ym mis Ionawr.
Pedwar o'r artistiaid fydd ar y rhestr fer wedi pleidlais gyhoeddus sy'n dod i ben am hanner nos ar 31 Ionawr.
Teimlo'n 'wylaidd'
Dywedodd Gwyneth Glyn: ""Mae cael eich cydnabod am eich gwaith yn yr un categori â mawrion fel Robert Plant a Rhiannon Giddens yn gneud i rywun deimlo'n wylaidd a deud y lleiaf.
"Cael rhoi llwyfan byd-eang i'r caneuon yma sydd mor agos i 'nghalon i - dyna'r wir wobr."
Ychwanegodd bod yr enwebiad a llwyddiant 'Tro' yn adlewyrchu gweledigaeth ac ymroddiad "criw o bobol arbennig iawn" oedd â "ffydd yn y gwaith", gan gynnwys y cynhyrchydd Dylan Fowler a swyddogion y label bendigedig.
Mae gwobrau Songlines yn cael eu cynnal bob blwyddyn ers 2009.
Mae'r cylchgrawn yn cynnwys adolygiadau misol o albymau newydd o bob rhan o'r byd ac ym mhob rhifyn, mae golygyddion yn nodi 10 yn benodol sy'n haeddu statws 'Top of the World' ac yn dewis trac o bob albwm i'w gynnwys ar CD sy'n dod gyda'r cylchgrawn.
Detholiad o'r albymau wnaeth gyrraedd y nod hwnnw sydd wedi eu henwebu yng nghategorïau'r Artist Gorau a'r Grŵp Gorau.
Cafodd yr albwm 'Tro' sylw yn rhifyn mis Tachwedd.
Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 11 Mai yn rhifyn Mehefin y cylchgrawn.
Yn 2014, fe ddaeth y delynores Catrin Finch i'r brig yn un o gategorïau eraill gwobrau Songlines.
Fe enillodd y wobr am y cydweithredu traws-ddiwylliannol gorau gyda'r cerddor o Senegal, Seckou Keita am eu halbwm Clychau Dibon.
Bydd Gwyneth Glyn yn cefnogi Catrin Finch a Seckou Keita ar daith yn y DU ym mis Ebrill a Mai.
Yn 2016 cafodd y gantores a chyn-Fardd Plant Cymru ei henwebu gyda'i grŵp Ghazalaw ar gyfer y wobr Trac Traddodiadol Gorau yn seremoni Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 am y gân 'Moliannwn'.
Roedd y gân o albwm cywaith Cymreig ac Indiaidd gyda'r canwr o Mumbai, Tauseef Akhtar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2017
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2016