Finsbury Park: Oes o garchar i ddyn o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Darren OsborneFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met

Mae dyn o Gaerdydd yrrodd fan i mewn i dorf o Fwslimiaid ger mosg yn Llundain wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar.

Fe wnaeth Darren Osborne, 48, yrru'r fan tuag at bobl oedd yn sefyll tu allan i fosg yng ngogledd y ddinas toc wedi 00:15 ar 19 Mehefin y llynedd.

Roedd yr ardal yn brysur gydag addolwyr yn mynychu gweddïau Ramadan yn Finsbury Park.

Bydd yn rhaid i Osborne dreulio o leiaf 43 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Yn Llys y Goron Woolwich ddydd Iau cafwyd Osborne yn euog hefyd o geisio llofruddio.

Clywodd y llys ddydd Gwener bod Osborne wedi'i gael yn euog o dros 100 o droseddau yn y gorffennol, a'i fod wedi bod o flaen llys ar 33 achlysur ers ei drosedd gyntaf pan oedd yn 15 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Makram Ali ei ladd wedi i fan Darren Osborne ei daro

Tarodd y fan yn erbyn Makram Ali, 51, fu farw yn y digwyddiad, yn ogystal â naw o bobl eraill gafodd eu hanafu.

Ychydig cyn hynny roedd Mr Ali wedi disgyn wrth gerdded ar hyd ffordd Seven Sisters, ac roedd y dorf o'i gwmpas wedi ymgynnull er mwyn ceisio'i helpu.

'Ymosodiad creulon'

Cafodd ddatganiad gan ferch Mr Ali, Ruzina Akhtar, ei ddarllen yn y llys, oedd yn dweud ei bod wedi dioddef "hunllefau cyson" ers marwolaeth ei thad.

"Roedd y digwyddiad yn agos at ein cartref ac rwy'n cerdded heibio yn aml. Rwy'n aros yn effro yn y nos yn meddwl am yr ymosodiad," meddai Ms Akhtar.

Dywedodd bod ei mam nawr yn rhy ofnus i adael y tŷ ar ei phen ei hun am ei bod yn poeni y bydd rhywun yn ymosod arni.

"Fy nhad oedd y person mwyaf gonest a twymgalon i mi ei 'nabod. Roedd yn llawn jôcs a chwerthin, ac yn llawn cariad tuag at ei deulu a'i wyrion," meddai.

"Cafodd ei fywyd ei gymryd mewn modd creulon gan berson didostur â meddwl cul."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ruzina Akhtar ddarllen teyrnged i'w thad y tu allan i'r llys ddydd Gwener

Dywedodd yr erlyniad ei bod yn "glir mai ymosodiad terfysgol oedd hwn".

Ychwanegodd Sue Hemming o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Fe wnaeth Darren Osborne gynllunio a gweithredu'r ymosodiad yma oherwydd ei gasineb tuag at Fwslimiaid.

"Mae'n rhaid iddo nawr wynebu canlyniadau ei weithred."

Roedd Osborne, o ardal Pentwyn, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio Mr Ali ac o geisio llofruddio eraill.

Yn ystod yr achos fe wnaeth Osborne wadu gyrru'r fan adeg yr ymosodiad, gan ddweud mai dyn o'r enw Dave oedd wrth y llyw.

Dywedodd nad oedd yn gwybod beth oedd cyfenw Dave, ond fod y ddau wedi cwrdd yn nhŷ tafarn The Pick and Shovel yn Nhrefforest fis Mawrth neu Ebrill y llynedd.

Llythyr

Roedd llythyr adawodd Osborne yn y fan yn awgrymu ei fod wedi gweithredu oherwydd ei ddicter gyda'r cynnydd mewn ymosodiadau terfysgol, ac oherwydd achosion o gam-drin plant yn Rotherham.

Roedd y nodyn hefyd yn feirniadol o arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a Maer Llundain, Sadiq Khan.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o’r llun,

Darren Osborne mewn tafarn ger Caerdydd cyn yr ymosodiad - y gred yw mai yno yr ysgrifennodd y llythyr gafodd ei ganfod

Cyn yr ymosodiad cafodd Osborne ei glywed mewn tafarn ym Mhentwyn yn siarad yn ymosodol am Fwslimiaid.

Roedd hefyd wedi bod mewn cysylltiad ar y we gyda grwpiau asgell dde eithafol, gan gynnwys Britain First a'r English Defence League.

Dywedodd Jonathan Rees QC ar ran yr erlyniad "fod y dystiolaeth yn dangos fod y diffynnydd yn ceisio lladd gymaint o bobl â phosib".

Ychwanegodd fod y nodyn wedi profi cymhelliant i "geisio dylanwadu ar y llywodraeth ac i ddychryn y gymuned Fwslimaidd, a gwneud hyn er mwyn hybu daliadau ac achos gwleidyddol, crefyddol, ideolegol neu hiliol".