Neil McEvoy yn mynnu gweld e-byst gan ACau Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae BBC Cymru ar ddeall fod Neil McEvoy wedi gofyn am gopïau o negeseuon sydd gan sawl AC ac aelodau staff Plaid Cymru, gan gynnwys yr arweinydd Leanne Wood, amdano.

Mae'r AC annibynnol eisiau gweld e-byst a llythyrau, gan gynnwys unrhyw farn sydd yn cael ei fynegi amdano.

Fe ddaeth y cais ychydig ddyddiau cyn iddo gael ei ddiarddel o grŵp y blaid yn y Cynulliad, ac mae'n debyg fod hynny wedi cyfrannu at y penderfyniad.

Dywedodd Mr McEvoy y dylai'r blaid ddelio â'r cwynion yn ei erbyn yn hytrach nag "anfon fy ngwybodaeth breifat at y cyfryngau a lobïwyr".

'Diffyg ymddiriedaeth'

Mae ffynhonnell wedi dweud fod ei hawl i'w ddata ei hun wedi ei "barchu" a'u bod yn cydymffurfio â'r mater "yn llawn".

Ond ychwanegodd y ffynhonnell fod y cais, gafodd ei wneud dan gyfraith amddiffyn data oedd yn ymestyn i ddyfeisiadau personol yr unigolion hynny, wedi "crisialu'r diffyg ymddiriedaeth" oedd gan y grŵp a Mr McEvoy.

Mae Mr McEvoy yn parhau i fod yn aelod o Blaid Cymru ond cafodd ei wahardd o'r grŵp yn barhaol ym mis Ionawr "oherwydd methiant ymddiriedaeth na ellir ei adfer".

Roedd eisoes wedi cael ei wahardd o'r grŵp cyn hynny.

"Dyw hi ddim yn neis i feddwl fod rhywun yn tybio eich bod yn euog un ai o ddal rhywbeth yn eu herbyn neu eich bod ar eu hôl nhw," ychwanegodd y ffynhonnell.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy bellach yn eistedd yn y Cynulliad fel AC annibynnol

Mae Mr McEvoy yn wynebu ymchwiliad gwahanol gan y blaid i gwynion ynglŷn â'i ymddygiad, sydd heb ei gwblhau eto.

Mae wedi honni fod y cwynion yn ei erbyn wedi cael eu cydlynu gan lobïwyr gwleidyddol - rhywbeth mae Plaid Cymru wedi gwadu.

Fe wnaeth yr AC ddefnyddio'r un broses diogelu data i gyhoeddi manylion am y cwynion yn ei erbyn, rhywbeth mae'r blaid bellach wedi ymddiheuro amdano.

Mae'n debyg nad yw gwybodaeth allai effeithio ar gwynion sy'n parhau yn cael ei ryddhau dan y cais i ACau Plaid.

'Annerbyniol'

Dywedodd Mr McEvoy: "Mae gen i nawr un o brif gyfreithwyr Cymru yn delio gyda fy achos.

"Fe fydd e'n atgoffa grŵp Plaid o bwysigrwydd cyfiawnder naturiol, dilyn prosesau, y ddyletswydd o ofal, a hawliau pobl i ddiogelu data, tegwch, a chael y cyfle i amddiffyn eu hunain.

"Yn hytrach nag anfon fy ngwybodaeth breifat i'r cyfryngau a lobïwyr, dwi'n gobeithio y bydd Plaid nawr yn canfod amser i ddelio â'r cwynion gafodd eu gwneud yn fy erbyn bron i flwyddyn yn ôl.

"Dyw'r fath oedi ddim yn dderbyniol."

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd:

Mae'n anarferol iawn i aelod o blaid wleidyddol anfon cais o'r fath i gyd-aelodau.

Mae'n adlewyrchiad o sut mae'r berthynas wedi dirywio rhwng Neil McEvoy ac ACau Plaid, sydd bellach ddim eisiau gweithio ag o.

Mae o wedi honni, drwy ei gyfreithwyr, fod y blaid wedi methu â delio â'r cwynion amdano mewn modd priodol.

Mae rhai yn y blaid yn dweud fod gofyn am ohebiaeth yn y ffordd yma yn cyfiawnhau penderfyniad grŵp y Cynulliad i'w ddiarddel.