Galw am gyhoeddi adroddiad i ddiswyddiad Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Bydd y gwrthbleidiau yn gorfodi pleidlais yn y Senedd yn galw am gyhoeddi adroddiad i ymchwiliad o ryddhau gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru.

Daeth ymchwiliad ym mis Tachwedd i'r casgliad "nad oedd tystiolaeth o rannu gwybodaeth heb ei awdurdodi" yn ymwneud ag ad-drefnu cabinet Carwyn Jones.

Roedd yr ymchwiliad yn un o dri gafodd eu gorchymyn wedi i Carl Sargeant gael ei ddiswyddo o'r cabinet, ac yna'i farwolaeth yr wythnos ganlynol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi cyflwyno cynnig ar y cyd yn y Cynulliad yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi'r adroddiad "gyda golygiadau priodol".

Ni fyddai pleidlais ar gynnig y gwrthbleidiau yn orfodol, ac fe gafon nhw'u disgrifio fel "diystyr" gan ffynhonnell o'r Llywodraeth fis diwethaf.