Galw am newid deddf gofal plant sy'n cosbi rhai rhieni

  • Cyhoeddwyd
Sophie Howe
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Sophie Howe mae'r gyfraith yn atal trefniadau gofal plant "hollol synhwyrol"

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn galw am newid deddf sy'n cosbi rhieni sy'n trefnu i berthnasau ofalu am eu plant.

Roedd perthnasau oedd wedi cofrestru fel gofalwyr plant yn arfer cael arian gan gynllun gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru.

Ond mae'r budd-dal wedi dod i ben pan ddaeth i'r amlwg bod talu aelodau teulu yn torri deddfwriaeth.

Dywedodd Sophie Howe bod hyn yn annheg, ac mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ystyried a ddylid newid y gyfraith.

"Lle mae neiniau a theidiau'n gofalu am eu hwyrion ac wedi cofrestru fel gofalwyr plant, mae'n gwneud synnwyr perffaith iddyn nhw ofalu am eu hwyrion," dywedodd Ms Howe wrth raglen Wales Live BBC Cymru.

"Os mae'r rheolau'n atal rhywbeth sy'n gwbwl synhwyrol, gadewch i ni newid y rheolau."

'Cam yn ôl'

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroddi i roi 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed

Roedd cynllun peilot wedi caniatáu i rieni ddefnyddio aelodau teulu sydd wedi cofrestru fel gofalwyr plant, cyn belled â'u bod ddim yn byw yn yr un cartref.

Ond mae hynny wedi dod i ben ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod yn groes i ddeddfwriaeth sy'n bod ers 2010.

Ffynhonnell y llun, PA

O ganlyniad mae rhai rhieni yn gorfod penderfynu rhwng cadw'u plant gyda gofalwyr cofrestredig sy'n perthyn iddyn nhw, neu eu symud at ofalwyr plant eraill neu feithrinfeydd er mwyn derbyn arian.

Mae hyn yn "gam yn ôl" ac i bob pwrpas yn symud plant at ofalwyr dieithr, medd y corff sy'n cynrychioli'r maes, Pacey (The Professional Association for Childcare and Early Years).

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn edrych ar y polisi wrth baratoi i ymestyn y cynllun ar draws Cymru erbyn diwedd 2020.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi trafod hyn gyda Pacey ac fe wnawn ni barhau i siarad gyda nhw ynglŷn â pha newidiadau, os unrhyw newidiadau, ellir eu gwneud i'r ddeddfwriaeth cyn ymestyn y cynnig yn genedlaethol."