Non Stanford fydd capten Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi mai'r athletwraig, Non Stanford fydd eu capten ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2018.
Fe fydd y gemau eleni yn cael eu cynnal ar yr Arfordir Aur yn Awtralia.
Bydd Stanford yn arwain tîm o dros 200 o athletwyr ym mis Ebrill.
Nid oedd Stanford yn rhan o Dîm Cymru yn Glasgow 2014 oherwydd anaf, ond fe lwyddodd i wella erbyn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016, gan ddod o fewn trwch blewyn i gipo medal efydd yng nghystadleuaeth y triathalon.
'Syndod ac anrhydedd'
Dywedodd Non Stanford ei bod wedi ei "synnu" pan gafodd y cynnig, gan ddisgrifio'r cyfle fel "anrhydedd".
"Cefais yr alwad a'r cynnig o fod yn gapten wrth baratoi i deithio i Dubai ac roeddwn i mewn sioc!
"Mae'r capten yn rôl fawr ac rwy'n ddiolchgar iawn o gael y teitl ar gyfer Tîm Cymru sy'n teithio i Awstralia mis nesaf."
"Mae'r Gemau Gymanwlad wedi bod yn freuddwyd i mi ers i mi fod yn ifanc, hyd yn oed cyn y Gemau Olympaidd. Yn tyfu lan, fy mreuddwyd oedd cystadlu dros fy ngwlad. Roedd colli allan ar y gemau yn Glasgow yn anodd iawn i fi, felly mae'r cyfle yma i wisgo'r crys coch ac i arwain Tîm Cymru yn wych - dwi wrth fy modd!"
Dyma fydd Gemau Gymanwlad gyntaf erioed i Stanford, a bydd yn cystadlu ar ddiwrnod cyntaf y Gemau.
Ychwanegodd ei bod yn "gobeithio'n fawr y bydd Cymry i gyd yn dangos cefnogaeth i'r tîm tra maen nhw 'n cystadlu".
Dywedodd Nicola Phillips, Chef de Mission Tîm Cymru: "Mae'r capten yn cael ei ddewis ar ei nodweddion arweinyddiaeth unigol a'u gallu i ysbrydoli tîm, eu hagwedd a'u hymddygiad yn y maes cystadlu.
"Rydym yn hynod o falch bod Non wedi cytuno i ymgymryd â'r rôl bwysig hon. Mae Non yn gallu arwain trwy esiampl ac mae hi wedi dangos yn barod cymaint o gryfder ar ôl anaf cyn y Gemau diwethaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd16 Medi 2016
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2014