Cyfle i roi gwybod am sbwriel cyffuriau yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
poster

Mae pobl yng ngogledd Cymru yn cael eu hannog i roi gwybodaeth am wastraff sy'n cael ei adael ar ôl gan ddefnyddwyr cyffuriau drwy ffonio llinell ffôn neu chysylltu â gwefan newydd.

Mae'r heddlu, staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chynghorau wedi bod yn cydweithio i sefydlu ffordd haws i bobl roi gwybod iddynt am nodwyddau a chwistrelli sy'n cael eu gadael ar ôl gan ddefnyddwyr cyffuriau.

Mae'r wefan ddwyieithog, dolen allanol ar gael, ac mae'r rhif ffôn 0808 808 2276 yn weithredol bob awr o'r dydd.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud mai eu nod yw lleihau y risg o niwed a all gael ei wneud gan sbwriel cyffuriau.

Dywedodd y rhingyll Iechyd Cymunedol Beth Jones: "Er bod gogledd Cymru yn lle diogel i fyw ac i ymweld ag ef mae 'na wastraff cyffuriau ar adegau ac mae angen cael gwared ohono fel bod neb yn cael niwed."

Dywedodd Tracy Griffiths, sy'n rheolwr camddefnyddio sylweddau dros dro ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y bydd y gwasanaeth newydd yn ei gwneud hi'n haws "'i'r cyhoedd roi gwybodaeth am sbwriel cyffuriau ar draws gogledd Cymru".