Gwella darpariaeth iaith yn amod i gytundeb meddygon
- Cyhoeddwyd
Fe fydd meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 1% dros y 12 mis nesaf ynghyd â chymorth i ymdopi gyda chostau cynyddol yswiriant meddygol.
Ond fel rhan o'r cytundeb newydd dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid i feddygon wella'r ddarpariaeth iaith Gymraeg sydd ar gael.
Mae'r cytundeb rhwng y llywodraeth, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd hefyd yn galw ar feddygon i wella mentora a hyfforddiant ac adolygu'r cynnig recriwtio.
Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â'r cytundeb cyflog mewn datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething ddydd Llun.
Diwygiad
Ar ben y newidiadau ariannol, cafodd newidiadau eraill i wella darpariaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol eu cytuno, yn cynnwys:
Gwerthuso'r Cynllun Denu a Chadw Meddygon;
Cytuno ar ffordd o fynd ati i wella hygyrchedd gwasanaethau;
Ymrwymiad i fonitro effaith symud i systemau TG eraill;
Llacio'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau er mwyn lleihau'r pwysau o'r llwyth gwaith.
Ychwanegodd y datganiad: "Mae'r dull newydd hwn yn rhoi'r llwyfan inni ddiwygio'r contract presennol, i fynd i'r afael â materion o fewn y system ac i ddatblygu'r ymrwymiadau hynny y mae'r llywodraeth hon wedi'u hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen, dolen allanol a Ffyniant i Bawb, dolen allanol."
Bydd y pecyn ar gyfer meddygon teulu yn golygu cynnydd o tua £27m yn y buddsoddiad gan y llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth.
Mae'r BMA, y mudiad sy'n cynrychioli meddygon teulu, wedi dweud fod y cytundeb yn un positif a fydd yn sicrhau fod y proffesiwn yn un cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Charlotte Jones, cadeirydd pwyllgor Cymreig meddygon teulu y BMA: "Mae'r cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i feddygfeydd o ganlyniad i'r cynnydd ariannol a'r cymorth gydag yswiriant...
"Fe fydd o hefyd yn amddiffyn adnoddau meddygfeydd fel eu bod ar gael ar gyfer gofal cleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd10 Awst 2017