Abertawe am wneud cais i ddenu canolfan Channel 4

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y cyngor yw denu'r darlledwr i ardal Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi ei fwriad i wneud cais i ddenu Channel 4 pan fydd rhai o staff y sianel yn symud o Lundain y flwyddyn nesaf.

Mae'r darlledwr wedi cyhoeddi y bydd tair canolfan newydd yn cael eu sefydlu y tu allan i Lundain, gan gynnwys pencadlys cenedlaethol newydd.

Bydd 300 o staff hefyd yn symud, ac mae'r prif weithredwr wedi ymrwymo i gynyddu faint sy'n cael ei wario ar raglenni sy'n cael eu cynhyrchu y tu allan i brifddinas y DU.

Dywedodd Cyngor Abertawe y byddai'n gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel rhan o'r cais i ddenu Channel 4 i ardal Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Mae Caerdydd eisoes wedi datgan ei bwriad i wneud cais, ac mae BBC Cymru ar ddeall bod Caerfyrddin a Wrecsam yn ystyried ceisiadau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Channel 4 am symud 300 o staff i dair canolfan y tu allan i Lundain

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Hoffem gael y cyfle i weithio gyda Channel 4 a darparu canolfan gyfoes a chroesawgar i'w chefnogi wrth gynhyrchu mwy o gynnwys yn y rhanbarthau.

"Mae'r isadeiledd gennym eisoes gyda'n diwydiannau creadigol sy'n ehangu, Stiwdios y Bae sy'n llwyddiannus ac enw da cynyddol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am ragoriaeth mewn cyfryngau digidol a chreadigol."

Ychwanegodd y byddai denu Channel 4 yn cryfhau Cymru ymhellach fel canolfan ar gyfer y cyfryngau a darlledu.

Bydd lleoliadau sydd â diddordeb denu'r darlledwr yn gallu gwneud cais ffurfiol i'r darlledwr o fis Ebrill, gyda phenderfyniad ar leoliad terfynol y tri safle yn yr hydref.