Pam fod y gwyliau ysgol yn wahanol yn y de a'r gogledd?

  • Cyhoeddwyd
Bydd hi ddim yn dda mewn rhai ardaloedd os na fydd gwyliau ysgol adeg y sioe
Disgrifiad o’r llun,

Tybed a fydd rhai athrawon a disgyblion yn colli dechrau'r Sioe Fawr eleni?

Mae gwyliau'r Pasg wedi dechrau yng ngogledd Cymru a Phowys ers dydd Llun, ond mae ysgolion y de a'r gorllewin yn dal i gael gwersi tan ddydd Iau, 29 Mawrth.

Nid dyma'r tro cyntaf, na'r tro olaf, i hyn ddigwydd eleni. Cafodd ysgolion y gogledd eu gwyliau hanner tymor wythnos yn gynharach na'r de, ac mae'n bosib bydd ambell un yn siomedig ar ddechrau gwyliau'r haf eleni...

Pam fod 'na wahaniaeth?

Yn fras, un o'r problemau yw bod dyddiad y Pasg yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn yn gallu achosi problem wrth ddewis pryd i alw gwyliau ysgol, ac yn dylanwadu pryd mae'r ysgolion yn cau ar gyfer gwyliau'r haf.

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru orfodi awdurdodau lleol i osod yr un dyddiadau ar gyfer gwyliau ysgol, ond ni ddefnyddiwyd y 'pwerau cysoni' yma eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai disgyblion mewn gwersi wythnos yma tra fod eraill ar wyliau

Ydy'r gwahaniaeth yn digwydd eto cyn diwedd y flwyddyn?

Ydy. Mae ysgolion y gogledd a Phowys yn dechrau eu gwyliau haf swyddogol yn gynharach na'r de, y gorllewin a Cheredigion.

Mi fydd ysgolion Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Powys, Wrecsam ac Ynys Môn yn torri am yr haf ar ddydd Gwener 20 Gorffennaf, tra bod y tymor yn parhau tan ddydd Mawrth 24 Gorffennaf yng ngweddill y wlad.

Mae nifer o'r ysgolion hynny sy'n torri'n hwyrach wedi penderfynu cynnal HMS (Hyfforddiant Mewn Swydd) ar y dydd Llun a Mawrth, 23 a 24 Gorffennaf.

HMS yw dyddiau pan fo'r athrawon yn mynd i'r ysgol i gael hyfforddiant, ond dydy'r disgyblion ddim yn mynychu. Gall yr ysgolion unigol benderfynu pryd i gynnal eu dyddiau HMS.

Os yw ysgolion yn parhau ar agor i ddisgyblion ac athrawon tan ddydd Mawrth 24 Gorffennaf fe all hynny fod yn newyddion drwg i ambell un, gan fod y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn dechrau ddydd Llun 23 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Steddfod yr Urdd yn ystod gwyliau hanner tymor Mai

Y newyddion da, ar y llaw arall, ydy bod hanner tymor Mai yn gyson ar draws Cymru (28 Mai - 1 Mehefin), felly bydd cyfle i holl ddisgyblion Cymru fynd i Steddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni!

Sut mae hyn yn cymharu gyda Lloegr?

Os ydych chi'n riant sy'n hoffi bargen, mi fyddwch chi'n gwybod ei bod hi'n gallu bod yn fanteisiol i gael gwyliau ysgol gwahanol i Loegr.

Yn anffodus, mae'r darlun yr un mor gymysglyd ar draws y ffin gyda rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn barod wedi torri am y Pasg, ac eraill yn torri ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gallu bod yn help i gael gwyliau rhatach os yw ysgolion yn cael gwyliau ar adegau gwahanol

Beth am 2018/19?

Dyw pob awdurdod heb gyhoeddi manylion eu dyddiadau tymor ysgol ar gyfer 2018/19 eto. Ond, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod y gwyliau'n fwy cyson ar draws Cymru y flwyddyn nesaf (heblaw ambell i ddiwrnod, ac hyfforddiant mewn swydd).

Ond, y cyngor gorau yw i chi edrych ar wefan eich awdurdod lleol i gael y manylion llawn. Dyma'r dolenni:

A phryd bynnag y daw... mwynhewch y gwyliau!