Pedwar o fyrddau iechyd Cymru wedi gorwario o £163m

  • Cyhoeddwyd
Claf a nyrs

Bydd pedwar o fyrddau iechyd Cymru wedi gorwario cyfanswm o bron i £163m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru.

Dyma fydd y diffyg mwyaf mewn blwyddyn erioed i'w gofnodi gan GIG Cymru.

Mae un bwrdd iechyd, Hywel Dda yn y gorllewin, yn gyfrifol am dros 40% o'r gorwario - gyda darogan y bydd y diffyg yn £60.6m erbyn dechrau Ebrill.

Mae hyn 40% yn uwch na'r gorwario o ychydig o dan £50m y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru.

Pwysau costau lleol

Mae Hywel Dda yn gwario mwy ar gyfartaledd ar gyflogi meddygon a nyrsys llanw o ganlyniad i drafferthion recriwtio difrifol.

Yn yr adroddiad ariannol diweddara, dywed y bwrdd iechyd mai eleni yw'r flwyddyn "orau hyd yma" mewn termau dod o hyd i arbedion, ond bod hynny wedi ei ddileu gan bwysau costau yn lleol.

Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd yn nodi gorwario uwch eleni - o £30m y llynedd i £36m.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig gyda Llywodraeth Cymru yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa.

Yn eu cynllun drafft ariannol dros dro, dywed y bwrdd bod cyfrifwyr allannol wedi dod i'r casgliad bod y dirywiad yn eu sefyllfa ariannol o ganlyniad i fethiant y bwrdd i gyflwyno yn llawn yr agenda o newid yn y blynyddoedd diwethaf.

Wynebu cosb

Tra bod byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro wedi gweld peth gwelliannau i'w sefyllfa ariannol o'i gymharu â'r llynedd - maen nhw hefyd yn darogan gorwario sylweddol am yr ail flwyddyn yn olynnol - £30m i Abertawe Bro Morgannwg a £26.9m i Gaerdydd a'r Fro.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Vaughan Gething wedi rhybuddio na fyddai byrddau iechyd sy'n gorwario yn cael help ariannol

Ond mae tri bwrdd iechyd arall, Cwm Taf, Aneurin Bevan a Phowys wedi llwyddo i beidio gorwario eleni.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu diffyg ar y cyd o tua £360m gan y byrddau iechyd yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd.

Mae hynny yn fwy na 40% yn uwch na'r gorwario o £253m gofnodwyd rhwng 2014/15 a 2016/17.

Yn eu hadroddiadau ariannol diweddaraf, mae sawl bwrdd iechyd yn nodi y gallen nhw wynebu cosb ariannol am beidio cyrraedd targed Llywodraeth Cymru am leihau amseroedd aros, neu y gallai fod angen help ariannol ychwanegol i wneud hynny.

Y llynedd roedd yr Ysgrifennydd Iechyd wedi rhybuddio na fyddai byrddau iechyd sy'n gorwario yn cael help ariannol gan Lywodraeth Cymru, ac na fyddai yn cymeradwyo cynlluniau ariannol nad oedd yn cyflwyno gwelliannau.

Fis Gorffennaf 2017 cyhoeddodd Vaughan Gething bod cyfrifiwyr Deloitte LlP wedi cynnal adolygiad o lywodraethiant ariannol Hywel Dda, Caerdydd a'r Fro ac Abertawe Bro Morgannwg.

Twll du

Fe ddatgelwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn adolygiad ariannol annibynnol o fwrdd iechyd mwyaf Cymru - Betsi Cadwaladr.

Ym mis Hydref 2016 roedd yna rybuddion y gallai'r GIG yng Nghymru wynebu y cyfnod mwyaf heriol yn ariannol yn ei hanes.

Roedd arbenigwyr o'r Sefydliad Iechyd wedi darogan y gallai'r gwasanaeth iechyd wynebu twll du o £700m mewn 3 blynedd, sy'n cyfateb i bron i 10% o'r gyllideb bob blwyddyn.

Ond yn ôl y gwaith ymchwil fe allai'r gagendor gau pe bai cyllideb GIG Cymru yn cynyddu 0.7% y flwyddyn, pe bai codiadau cyflog yn cael eu cyfyngu a phe bai modd dod o hyd i arbedion o tua 1.5% bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod cynnydd wedi bod yn y gwasanaeth iechyd, mwy na'r hyn oedd yn cael ei argymell yn yr astudiaeth.

"Mae buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd ar ei lefel uchaf erioed, gyda Chymru yn gwario dipyn mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol y pen nag yn Lloegr.

"Rydym hefyd yn buddsoddi mewn £550m ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys £100m i drawsnewid y ffordd mae iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyflwyno."

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth llefarydd iechyd Plaid Cymru ar y Post Cyntaf

Ar raglen y Post Cyntaf dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd y dylai'r Llywodraeth Lafur wedi mynd i'r afael â'r broblem dro yn ôl, gan ddweud fod yna ddiffyg rheolaeth.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinwyr y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fod angen i Mr Gething sicrhau newidiadau ysgubol i'r gwasanaeth iechyd, gan "ffocysu ar well ar gynllunio, gwario mwy gofalus a gwell cyfathrebu gyda'r cyhoedd".