Pedoffeil o Abertawe yn colli apêl yn erbyn dedfryd
- Cyhoeddwyd
Mae pedoffeil o Abertawe wedi colli apêl yn erbyn hyd ei ddedfryd yn y Llys Apêl yn Llundain.
Cafodd David Hart, 61, ei garcharu am 22 mlynedd ym mis Medi y llynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn merch ysgol.
Roedd hefyd wedi rhannu fideos o'i droseddau yn erbyn y ferch - rhai pan oedd hi ond yn 11 oed - ar y we.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Spencer: "Roedd y troseddau yma ymhlith y mwyaf difrifol o'u math y gall unrhyw un ddychmygu."
'Niwed seicolegol difrifol'
Cafodd Hart ei ddisgrifio fel troseddwr "peryglus" a gorchmynnwyd iddo dreulio tair blynedd yn ychwanegol ar drwydded pan fydd yn cael ei rhyddhau o'r carchar.
Roedd y ferch wedi dioddef "niwed seicolegol difrifol" wedi i Hart ei thrin "fel rhyw anifail".
Roedd Hart wedi honni bod ei ddedfryd yn ormodol, ac y dylai gael ei chwtogi.
Ond dywedodd Mr Ustus Spencer, oedd yn eistedd gyda dau farnwr arall, fod ei gosb yn deg.
Gwrthododd hefyd yr hawl i Hart apelio yn erbyn y ddedfryd gan ddweud fod ei ddadl "heb unrhyw rinwedd o gwbl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2017
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017
- Cyhoeddwyd27 Medi 2017