'Angen gwell cymorth i ofalwyr Cymru' medd comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Sarah Rochira
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah Rochira'n rhoi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad

Mae angen ystyried safon y cymorth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru, yn ôl y Comisiynydd Pobl Hŷn.

Mae 370,000 o bobl yng Nghymru yn ofalwyr, gan gynorthwyo perthnasau hŷn, anabl neu'n ddifrifol wael heb gael eu talu.

Ond mae traean ohonynt yn bobl hŷn eu hunain, gyda 24,000 dros 75 oed.

Dywedodd Sarah Rochira wrth bwyllgor iechyd y Cynulliad fod llawer yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Dim ond 6,200 o ofalwyr oedd wedi cael asesiad y llynedd a dim ond 1,200 oedd wedi cael cynnig cefnogaeth, meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n bryd ailasesu'r gefnogaeth oedd ei hangen arnyn nhw, a bod angen "ymchwilio ymhellach" i'r ffigyrau yr oedd hi wedi'u crybwyll.

'Hybu ymwybyddiaeth'

"Gofalwyr yw asgwrn cefn y gwasanaethau cyhoeddus sydd gennym ni," meddai Ms Rochira.

"Maen nhw werth £8bn ac maen nhw'n straffaglu. Eleni, yn ddemograffig, roedd nifer y gofalwyr oedd angen arnom yn llai na'r nifer oedd angen gofal.

"Rydyn ni wedi defnyddio'r adnodd hwnnw bellach. Dydyn ni ddim yn gwneud digon - os yw ein gofalwyr ni'n methu fe fydd gwasanaethau cyhoeddus yn methu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw "weledigaeth i ofalwyr yng Nghymru ble mae gan bob cymuned ymdriniaeth gyfeillgar i ofalwyr".

Ychwanegodd fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn parhau i gael ei weithredu er mwyn sicrhau fod gan "ofalwyr yr un hawliau i asesiad a chefnogaeth â'r rheiny maen nhw'n gofalu amdanynt".

"Mae angen i ni gyd wneud mwy i hybu ymwybyddiaeth gofalwyr o'u hawliau a darparu profiad cyson ar draws Cymru. Rydyn ni'n gweithio gyda gofalwyr a sefydliadau gofal i wneud hyn."