Côr Llwyncelyn yn ennill Côr Ifanc Songs of Praise
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na ddathlu yn y Porth yn Rhondda brynhawn Sul wedi i gôr Ysgol Gymraeg Llwyncelyn ennill cystadleuaeth Côr Ifanc y Flwyddyn Songs of Praise i'r categori iau.
Yn y rownd derfynol dewisodd y côr, o dan arweiniad Elin Llywelyn- Williams, ganu Haleliwia yn Gymraeg.
Wrth roi eu sylwadau dywedodd y beirniaid bod y côr wedi gosod y safon ar gyfer y gystadleuaeth a bod y perfformiad yn un gonest a chwbl ddiffuant.
Y canwr Aled Jones oedd yn cyflwyno'r rhaglen ac fe gafodd ei ffilmio yng nghanolfan Pontio ym Mangor.
Côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn oedd yr unig gôr o Gymru i gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn y categori hwn ac fe ddywedodd un o'r disgyblion eu bod yn cystadlu "dros Gymru".
Roedd disgwyl i bob côr ganu cân o fawl.
Dewis Ysgol Llwyncelyn yn y rownd gyn-derfynol oedd canu "Fel yr Hydd" sy'n seiliedig ar Salm 42.
Perfformiad da gan Ysgol y Strade hefyd
Côr arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd côr Ysgol y Strade Llanelli - roedden nhw'n cystadlu yn y categori hŷn.
Roedd yna ganmoliaeth uchel gan y beirniaid i'w perfformiad o 'Galw Enw'r Iesu' ond y tro hwn mewn cystadleuaeth glós Côr Stratheam o Belfast oedd yn fuddugol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018