Cwynion am gau stryd yn Aberteifi 'heb ymgynghori'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd un o'r ffyrdd yng nghanol Aberteifi ynghau am hyd at 12 wythnos wrth i waith ddechrau ar adnewyddu to'r farchnad hanesyddol.
Mae un perchennog siop yn dweud y bydd cau'r ffordd yn cael effaith fawr ar ei busnes ac yn dweud nad oes neb wedi cysylltu â hi i drafod y mater.
Mae'r farchnad ac adeilad y Guildhall yn dyddio 'nôl i'r 19eg ganrif.
Mae'r ymddiriedolaeth sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r farchnad wedi cael tua £250,0000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill ar gyfer gwaith hanfodol i ddiogelu'r adeilad cofrestredig Gradd II.
Bydd Rhes y Coleg neu College Row, sy'n arwain o'r brif stryd i lawr at y maes parcio tu ôl i'r Guildhall, yn gorfod cau i gerbydau tra bod gwaith adnewyddu'r tô yn cael ei gwblhau.
'Clatshwch bant'
Cafodd un o gynghorwyr sir yr ardal, John Adams Lewis, wybod yng nghanol mis Ebrill y byddai'r ffordd yn cau.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i'r gwaith i'r to fynd yn ei flaen yn anffodus - mae'n mynd mlaen nawr at ddiwedd Gorffennaf.
"Dylsen nhw fod wedi ymgynghori a falle aros i wneud y gwaith tan ddiwedd yr haf ar ôl i'r twristiaid fynd.
"Os na wnewn ni'r gwaith nawr, falle bydd rhaid ail-wneud peth o'r gwaith.
"Fy neges i i'r contractwyr yw mae 'da chi 12 wythnos er mwyn gwneud popeth - clatshwch bant a gorffen y gwaith cyn gynted â phosib."
'Dyw e ddim yn deg'
Dywedodd Philippa Noble, sy'n rhedeg siop nwyddau pysgota Castaway ar Rhes y Coleg, ei bod wedi darganfod bod y ffordd yn cau drwy ddarllen gwefan papur lleol.
"Roedd hi'n sioc na chefais i unrhyw wybodaeth yn y post," meddai. "Ges i ddim gwybodaeth o gwbl.
"Does bosib na ddylwn i gael mewnbwn i'r penderfyniad. Mae'n mynd i gael effaith fawr arno ni.
"Mae llawer o dwristiaid yn sylwi ar y busnes wrth gerdded lawr i'r maes parcio.
"Mae gen i nifer o gwsmeriaid hŷn ac anabl sy'n cael eu gollwng tu allan i'r siop. Dyw e ddim yn deg iddyn nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Roedd diffygion strwythurol mawr i strwythur mewnol yr adeilad ac roedd angen unioni [hwnnw] cyn y gallai unrhyw waith ar y to gychwyn.
"Mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau ac felly gellir mynd i'r afael ag atgyweirio'r to.
"Ni ellir ymgymryd â'r gwaith hyn heb ddefnyddio sgaffaldiau ar y briffordd gyhoeddus.
"Ystyriwyd amryw o opsiynau, fodd bynnag, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y contractwr sy'n ymgymryd â'r gwaith, a'r cyhoedd sy'n defnyddio'r ffordd - ystyriwyd y byddai'r sgaffaldiau yn ymyrryd yn rhy bell ar y briffordd i gynnal mynediad i gerbydau.
"Mae'n amlwg mai'r amser gorau ar gyfer gwneud gwaith ar y to yw yn ystod cyfnodau o dywydd sych. Byddai methu â gwneud hyn nawr yn peryglu'n fawr y gwaith a wnaed yn fewnol, yn enwedig gyda'r posibilrwydd o gael dŵr yn treiddio i mewn.
"Bydd mynediad i gerddwyr ar hyd College Row trwy gydol y contract, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y cyfnod y bydd yr heol ar gau'n cael ei gadw i'r lleiafswm posib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017