Cymru i chwarae gêm gyfeillgar yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
stadiwm

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd y tîm cenedlaethol yn chwarae eu gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ar 11 Hydref yn Stadiwm Principality.

Fe fydd Cymru'n chwarae gêm ryngwladol yn y stadiwm am y tro cyntaf ers 2011.

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd y gymdeithas y byddai gemau cystadleuol yn parhau i gael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd am ddwy flynedd arall.

Wrth wneud y cyhoeddiad ddydd Mawrth dywedodd prif weithredwr y gymdeithas, Jonathan Ford: "Mae hwn yn gyfle gwych i'n cefnogwyr i weld tîm gwych a chwaraewyr o safon byd eang.

"Roedden ni am roi'r cyfle i bawb i weld y gêm, ac mae chwarae yn Stadiwm Principality yn caniatáu i ni wneud hynny."