Cyflwyno camau diogelwch newydd ar gyfer Sioe Fawr 2018

  • Cyhoeddwyd
James CorfieldFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff James Corfield yn Afon Gwy, bum niwrnod ar ôl iddo fynd ar goll.

Bydd nifer o fesurau i wella lles a diogelwch yn cael eu cyflwyno yn ardal Llanfair-ym-Muallt erbyn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf yn dilyn adolygiad eang.

Cafodd y mesurau eu hargymell gan grŵp gweithredu diogelwch a gafodd ei sefydlu wedi marwolaeth ffermwr ifanc o Sir Drefaldwyn yn Afon Gwy yn ystod sioe y llynedd.

Dyfarnodd crwner ym mis Ionawr fod James Corfield, 19, wedi marw trwy ddamwain, a'i fod fwy na thebyg wedi marw o sioc sydyn ar ôl mynd i ddŵr oer ar noson gynta'r sioe.

Fe gafodd mesurau lles a diogelwch eu hadolygu mewn pedwar maes - trwyddedu, trafnidiaeth, iechyd a diogelwch a seilwaith.

Mae'r mesurau ychwanegol yn cynnwys:

  • 'Llwybr Gwyrdd' o dref Llanfair-ym-Muallt i Faes y Sioe, Fferm Penmaenau a'r safle gwersylla a'r Pentref Ieuenctid;

  • canolfan les newydd yn y dref yn yr hen ganolfan groeso dan ofal staff gwasanaeth ieuenctid Cyngor Sir Powys;

  • gwasanaeth bugeiliaid stryd yn y dref cyn ac yn ystod pedwar diwrnod y Sioe;

  • gwell darpariaeth feddygol yn yr ardal; a

  • ffens diogelwch newydd rhwng Y Gro a'r afon.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwella trefniadau traffig a thacsis, mwy o doiledau cyhoeddus, gwell goleuadau, deunydd gwybodaeth newydd i ymwelwyr a gwell mesurau diogelwch a CCTV yn y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Criwiau'n chwilio Afon Gwy wedi diflaniad James Corfield

Mae'r grŵp gweithredu diogelwch yn cynnwys nifer o sefydliadau allanol - yn eu plith Cyngor Sir Powys, y gwasanaethau brys a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

"Yn dilyn digwyddiadau trasig y llynedd, mae'n bwysig i ni gydweithio a rhannu ein profiadau a'n gwybodaeth i wella lles a diogelwch pobl sy'n dod i'r ardal dros gyfnod y Sioe," meddai arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris.

"Mae'r Sioe'n achlysur pwysig nid yn unig i Bowys, ond i Gymru gyfan, a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i reoli diogelwch ac i ychwanegu at brofiadau'r ymwelwyr sy'n dod i un o ddigwyddiadau pwysicaf y wlad.

"Mae'r adolygiad wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda chamau sylweddol a fydd yn sicrhau bod y digwyddiad a'r gweithgareddau o gwmpas hyd yn oed yn fwy diogel."

Ychwanegodd fod 'na fwriad i barhau i fonitro ac adolygu'r trefniadau "i sicrhau eu bod yn addas i'r diben yn y dyfodol".