'Her' cynnal Eisteddfod mewn ardal fawr ond hwb i'r iaith

  • Cyhoeddwyd
Stephen Mason
Disgrifiad o’r llun,

Plentyn saith oed oedd Stephen Mason pan ddaeth yr eisteddfod i ardal Brycheiniog a Maesyfed y tro diwethaf

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn cydnabod bod hi wedi bod yn her i gael pobl mewn rhai trefi a phentrefi i ymwneud a'r eisteddfod eleni am ei bod hi'n cynnwys ardal ddaearyddol mor fawr.

Ond mae'r ymateb meddai wedi bod yn dda.

Eleni mae'r ŵyl yn dychwelyd i Frycheiniog a Maesyfed a hynny am y tro cyntaf ers 1978. Maes Sioe Llanelwedd yw'r lleoliad.

Tra bod Stephen Mason yn dweud bod nifer o ardaloedd fel Llanwrtyd, Aberhonddu a Heol Seni wedi bod yn gefnogol ac yn weithgar iawn mae wedi bod yn fwy o dalcen caled mewn llefydd eraill.

Mae yna bwyllgorau wedi eu sefydlu yn Rhaeadr Gwy a Llandrindod ond "falle bod ni ddim wedi ymestyn yn bellach mewn i Maesyfed na hynny," meddai.

Ymdrech fawr

Yr her arall oedd cyrraedd y bobl "sydd efallai yn tueddu i berthyn i Gwm Tawe i ddod i gefnogi rhywbeth sydd mor bell yn ddiwylliannol iddyn nhw lan ym Maesyfed ar y sioe falle," ychwanegodd.

Er hynny mae'n dweud bod disgyblion sy'n byw yn y sir ond yn teithio i Ysgol Gyfun Ystalyfera, sef yr ysgol gyfun Gymraeg agosaf, wedi bod yn ymwneud a'r ŵyl.

Dwy ffrwd Gymraeg mewn dwy ysgol uwchradd sydd ym Mrycheiniog a Maesyfed, a thra bod un ffrwd wedi wynebu dyfodol ansicr, mae'r ysgol arall sef Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt yn cau ac yn agor fel ysgol newydd gydag Ysgol Uwchradd Llandrindod ym mis Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Mason yn credu y bydd yr eisteddfod fel 'pentref bach neis' ar faes y sioe yn Llanelwedd

O ystyried y cefndir i gyd mae'r ymdrech meddai wedi bod yn un fawr.

"Mae'r ymdrech mae'r athrawon a phobl ifanc wedi gwneud er mwyn cystadlu, cefnogi, codi arian, ware teg, yn y cyd-destun sydd gyda ni eleni, mae wedi bod yn wych fi'n credu," meddai Mr Mason, sy'n bennaeth Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt.

£100,000 oedd y targed ariannol ar gyfer yr eisteddfod ac mae'n hyderus y bydd hwnnw wedi ei gyrraedd erbyn diwedd wythnos yr ŵyl, os nad cyn hynny.

Mae'r pwyllgor, sy'n griw bach, wedi bod yn "weithgar tu hwnt" ac fe allai'r swm fod 10 neu 15 mil yn uwch ar ôl i bob ceiniog ddod mewn i'r coffrau.

Hwb i'r iaith

Mae'n bendant fod trefnu a chynnal yr eisteddfod wedi bod yn hwb i'r iaith.

"Yn yr ardal yma, oni bai bod sefydliadau fel yr Urdd neu'r fenter iaith lleol yn trefnu rhywbeth, does dim byd fel arfer lle mae plant, pobl ifanc ac oedolion hefyd yn gallu mynychu yn y Gymraeg…"

"Byddai'n wych pe bai'r eisteddfod yn dod bob blwyddyn achos mae'r ffocws mae'r Gymraeg wedi cael dros y flwyddyn diwetha' yn rhywbeth dw i'n hynod o falch i weld."

Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd cannoedd trwy dref Aberhonddu ar gyfer yr ŵyl gyhoeddi'r llynedd

Tra ei fod yn teimlo fod lleoliad yr ŵyl yn "gartref delfrydol" ar gyfer digwyddiadau ac mewn man canolog mae'n dweud y gallai rhai sydd wedi arfer dod i'r Sioe Fawr weld y maes fel un sy'n "teimlo yn fach".

"Ond fi'n credu bod yr Urdd wedi bod yn ymwybodol o hynny ac wedi edrych ar sut i drio cadw popeth yn un rhan o'r maes."

Pwysig parhau i deithio

Ond er hwylustod safle'r Sioe Fawr mae o'r farn bod hi'n bwysig bod Eisteddfod yr Urdd yn parhau i deithio fel bod ardaloedd eraill yn cael yr un hwb ieithyddol maen nhw wedi ei gael.

"Ond os mae 'na, oherwydd mae problemau ariannol yn herio bob sefydliad dyddiau 'ma, os mae'r Urdd yn penderfynu ac mae'r 'steddfod yn llwyddiannus ac maen nhw yn dweud bod nhw yn dod 'nôl bob pedair neu bum mlynedd falle, bydde hwnna yn wych.

"Bydde hwnna yn wych i'r Urdd, yn wych i'r Cymreictod yma, i'r Gymraeg yma. Ond dyle'r 'steddfod deithio yn bendant."